Richard Burton (Llun: PA)
Fe fydd unigolion sy’n bwriadu cystadlu am Wobr Richard Burton eleni yn cael cymorth arbenigwyr y byd actio mewn dau weithdy arbennig.

Mae’r wobr yn cynnig y cyfle i actorion y dyfodol gael profiad o fod ar lwyfan, ac mae’n un o gystadlaethau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod Genedlaethol ers rhai blynyddoedd.

Fe fydd ymgeiswyr ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni’n cael y cyfle i weithio â Steffan Donelly ac Aled Pedrick mewn dau weithdy, y naill yn Y Llwyfan yng Nghaerfyrddin, sef cartref Theatr Genedlaethol Cymru, a’r llall yng nghanolfan Pontio ym Mangor. Bydd y ddau weithdy ar Ebrill 1.

Lle i 15 o bobol yn unig sydd ym mhob gweithdy.

‘Cyfle arbennig’

Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Drama’r Eisteddfod, Carys Edwards: “Mae hwn yn gyfle arbennig i berfformwyr ifanc weithio gyda dau sy’n hynod brofiadol yn y maes, sef Steffan Donelly ac Aled Pedrick.

“Gobeithio y bydd naws dosbarth meistr y dydd yn fuddiol iawn ac y bydd perfformwyr yn teimlo ei fod yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd, gan gynnwys y defnydd o lais ac osgo, symud ar lwyfan a chyfathrebu gyda’r gynulleidfa.

“Mae Gwobr Richard Burton yn rhan bwysig a phoblogaidd o’r Eisteddfod, a’r gobaith yw y gallwn ddenu hyd yn oed rhagor i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

“Bydd y diwrnod hefyd yn berthnasol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau perfformio monolog ar gyfer clyweliadau i golegau, gan weithio gydag ymarferwyr theatr profiadol yn eu maes.”

Mae Cwmni Drama Cymraeg Llanelli yn cefnogi’r gweithdai.

Dylai unrhyw un sydd am sicrhau lle yn y gweithdai gysylltu â sioned@eisteddfod.org.uk cyn Mawrth 15.

Mai 1 yw’r dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau llwyfan yr Eisteddfod.