Dei Elfryn gyda Mark Little yn Peter Pan (Llun oddi ar gyfri Facebook Dei Elfryn) Mae’r drymiwr sydd fel arfer yn rhan o fand y Moniars, newydd orffen cyfnod yn gwneud synau cefndir i bantomeim poblogaidd yn un o drefi glan môr gogledd Cymru.
Dei Elfryn oedd drymiwr y sioe Peter Pan ym mhafiliwn Y Rhyl, a oedd hefyd yn cynnwys cyn-actor o’r gyfres opera sebon Neighbours, Mark Little (Joe Mangle).
Gyda’r perfformiadau yn dod i ben ar Ionawr 7, mae golwg360 wedi bod yn ddigon ffodus i fedru cael golwg tu ôl i’r llenni cyn i’r cynhyrchiad dod i ben.
Cliciwch y linc isod ar gyfer taith arbennig o gwmpas y set…
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.