Joseph Scannell
Mae bachgen 21 oed o Benrhyn-coch ger Aberystwyth wedi llwyddo i gipio un o’r prif rannau mewn sioe ddawns yn Disneyland Tokyo.

Bydd Joseph Scannell yn teithio i Siapan ddiwedd y mis a threulio’r flwyddyn nesaf yn perfformio’r cymeriad ‘Peter Pan’ mewn sioe o’r enw One Man’s Dream sy’n ddetholiad o rai o olygfeydd enwocaf ffilmiau Walt Disney.

Bu “cannoedd” yn ymgeisio yn erbyn Joseph Scannell am y rôl, meddai.

“Mi glywais am y sioe drwy fy asiant, ac roedd 300 o bobol wedi trio amdano mewn clyweliadau yn Llundain, ac roedd clyweliadau mewn sawl lle yn America ac Awstralia hefyd,” meddai wrth golwg360.

“Dw i wedi bod yn ffodus iawn, a dw i’n edrych ymlaen at weithio a byw mewn rhan o’r byd sy’n hollol newydd i mi.”

‘Cystadleuol’

Ar hyn o bryd, mae Joseph Scannell yn rhan o bantomeim Jac a’r goeden ffa yn Norwich a bydd yn gadael am Tokyo ddeuddydd ar ôl gorffen y cynhyrchiad hwnnw.

“Yn amlwg, dw i’n teimlo’n lwcus iawn.  Doeddwn i ddim yn meddwl y bydden i’n cael swydd mor fuan,” meddai.

“Maen nhw’n dweud fod y siawns o gael dy alw nôl am glyweliad yn un mewn saith, a’r siawns am swydd yn un ymhob 30. Dw i’n teimlo’n ffodus iawn i fod wedi cael y swyddi hyn.”

Dawnsio – ‘yn y gwaed’

Dywedodd Joseph Scannell fod dawnsio yn ei waed, ac iddo ddechrau ar wersi dawnsio yn 15 oed yn Ysgol Ddawns Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

“Achos fy mod i’n fachgen ymhlith gymaint o ferched, rwy’n credu fod pobol wedi fy nghefnogi ac eisiau fy ngweld i’n gwneud yn dda.”