Mae’r actor Wyn Bowen Harries yn cynhyrchu sioe newydd ar newid yn yr hinsawdd.

Mae’r sioe 2071 wedi’i seilio ar syniadau gwyddonydd o’r enw Chris Rapley – a fu am gyfnod yn Gyfarwyddwr Ymchwil yr Antarctic – ynghyd â’i farn am sut fyd y bydd ei wyres fach yn ei etifeddu yn 2071 pan fydd hithau’n cyrraedd yr un oed ag y mae o heddiw.

Mae’r cynhyrchiad newydd yn cyfuno hanes, gwyddoniaeth a cherddoriaeth.

Yr actor Wyn Bowen Harries sy’n siarad geiriau’r Athro Chris Rapley yn y ddrama. Mae’r ddrama yn addasiad o sgript gan y gwyddonydd a Duncan Macmillan a berfformiwyd yn y Royal Court Theatre, Llundain a’r Schauspielhaus yn Hamburg.

Arbrawf

“Arbrawf ydi hwn,” meddai Wyn Bowen Harries. “Arbrawf i weld os oes modd defnyddio geiriau, cerddoriaeth a delweddau i archwilio pwnc cymhleth ac emosiynol.

“Dw i wedi cyfieithu’r ddrama ac wedi ei diweddaru er mwyn cynnwys gwybodaeth wyddonol newydd, oherwydd mae gennym ddealltwriaeth llawer mwy manwl o’r hyn sy’n digwydd i’n hinsawdd erbyn hyn,” meddai.

“Yr hyn sydd gennym yw’r persbectif personol, ymgais gan wyddonydd byd enwog sydd wedi cyfrannu at y wybodaeth yna i rannu’r hyn a wyddai a hefyd i ymdopi â’r wybodaeth sydd ganddo ar lefel bersonol iawn iddo ef a’i deulu.”

Fe fydd perfformiadau 2071 Gwaith ar y Gweill yn cael ei lwyfannu yn Galeri, Caernarfon ar Ragfyr 8, ac Neuadd Ogwen, Bethesda ar Ragfyr 9.