Mae cyn-dditectif sydd wedi arbenigo ar droseddau ‘Jack the Ripper’, yn llwyfannu sioe am y llofrudd yn Llandudno fis nesa’.

Ers 2002, fe fu Trevor Marriott, sydd bellach wedi ymddeol o’r heddlu, yn ymchwilio i hanes y llofruddiaethau yn Whitechapel yn Llundain yn 1888.

Dyw hi ddim yn hysbys pwy yn union oedd ‘Jack the Ripper’, ac mae’r dirgelwch yn ei gylch yn parhau 128 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae mwy na chant o lyfrau wedi’u cyhoeddi ynghyd â nifer o ffilmiau a rhaglenni dogfen, ond gweithiau ffuglennol yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw.

Chwedloniaeth

Yn ôl Trevor Marriott, mae’r gweithiau hyn wedi ychwanegu at y dryswch, gan arwain y cyhoedd i gredu’r chwedloniaeth ynghylch ‘Jack the Ripper’.

Bwriad y sioe ‘Jack the Rippper – The Real Truth’ yw ateb sawl cwestiwn syml am y llofrudd a’r hanes, fel:

* Ai’r un llofrudd oedd yn gyfrifol am bob marwolaeth?

* A gafodd organau’r meirw eu tynnu o’u cyrff yn y fan a’r lle ar ôl eu lladd?

* A oedd yr heddlu’n gwybod pwy oedd y llofrudd(ion)?

* A oedd ‘Jack the Ripper’ yn bodoli mewn gwirionedd, neu ai cymeriad a gafodd ei greu gan y wasg ydi o?

Mae’r sioe yn cynnwys cyfres o luniau gwreiddiol o 1888, a nifer ohonyn nhw’n dangos lle cafodd rhai o’r dioddefwyr eu lladd, ynghyd â nifer o bobol oedd yn cael eu hamau o fod yn ‘Jack the Ripper’.