Blwch Postio Syniadau Theatr Unnos Llun: Golwg360
Mae criw o artistiaid ym myd y theatr wedi ymrwymo i ysgrifennu a chynhyrchu drama newydd sbon dros nos heno.

Dyma’r her gyntaf o’i fath i gwmni theatr Y Frân Wen, a’u bwriad ydy creu darn o theatr newydd i’w berfformio am 12 brynhawn yfory, Awst 5.

Ugain awr fydd gan y criw i ddatblygu’r syniad, ac yn ôl cyfarwyddwr artistig Y Frân Wen – “does dim modd paratoi o flaen llaw” – am mai’r cyhoedd sy’n cyfrannu’r syniadau drwy eu postio ym mlwch melyn y Pentref Drama ar faes yr Eisteddfod.

Fe fydd y syniad terfynol yn cael ei ddethol am 5.30 heno, a’r criw yn gweithio’n ddi-dor tan y bore wedyn.

‘Syniadau’n bownsio’

 

Mae’r artistiaid sy’n rhan o’r Theatr Unnos yn cynnwys y coreograffydd Eddie Ladd, y perfformiwr Iwan Fôn, artist celfyddydol Mirain Fflur, cyfansoddwr Gruff Ab Arwel, Nico Dafydd, Iola Ynyr a Gwennan Mair Jones.

“Mae’n braf ymateb i rywbeth yn y fan a’r lle,” meddai Iola Ynyr.

“Dyma’r tro cyntaf i ni fel criw weithio gyda’n gilydd a gobeithio bydd y syniadau’n bownsio oddi ar ein gilydd,” ychwanegodd.