Mae diwrnod arall wedi mynd heibio yn yr Eisteddfod, felly mae hi wrth gwrs yn bryd ar gyfer ein pedwerydd podlediad ni o’r maes ym Meifod.

Cefin Roberts, cyd-gyfarwyddwr Côr Glanaethwy, a chadeirydd Cymdeithas yr Iaith Jamie Bevan, sy’n ymuno â Iolo Cheung am sgwrs yn yr haul ar y pod heddiw wrth iddi ddechrau brafio ym Maldwyn o’r diwedd!

Mae’r sgwrs yn mynd a ni i sawl cyfeiriad heddiw wrth i ni glywed am gynhyrchiad newydd o Les Miserables a llwyddiant Glaenaethwy yn Britain’s Got Talent, yn ogystal â her i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a beth allwn ni ei wneud i groesawu rhagor o ddysgwyr.

Fe gawn ni hefyd hanes enillwyr y ddwy seremoni fawr nos Fercher – Gari Bevan, tad Jamie, a gipiodd Dysgwr y Flwyddyn, ac Osian Candelas oedd yn fuddugol yn Nhlws y Cerddor: