Kate Harwood
Deng mlynedd yn ôl roedd Kate Harwood yn un o brif gymeriadau Pasiant y Plant Eisteddfod yr Urdd – nawr, mae’r fyfyrwraig Drama yn trafod ei phrofiad o feithrin y genhedlaeth nesaf …

Tybed faint ohonom sy’n gallu dweud bod ein breuddwyd fel plentyn 10 oed wedi dod yn wir ddegawd yn ddiweddarach?

Wel, yn ffodus i mi, dyma beth sydd wedi digwydd. Os awn ni nôl i 2006, i ymarferion Pasiant Y Plant, fe ofynnodd Geinor Styles i mi, “Be’ ti am wneud mewn 10 mlynedd Kate?”. Fe atebais i, “Dw i am fod fel ti, Geinor, cyfarwyddwr.”

Fel myfyrwraig Drama ar hyn o bryd, dw i yn gweithio’n galed i wireddu’r freuddwyd honno.

Pasiant y Plant

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyrraedd unwaith eto a dw i wedi cael fy sugno mewn i’r bwrlwm am flwyddyn arall. Ond y tro yma dw i ddim yn cystadlu, ond yn rhan o dîm cynhyrchu ‘Y Dyn na fu Erioed’ gan Sara Lewis.

Stori am ddewrder, arwriaeth ac ysbio yn ystod yr Ail Ryfel Byd yw Sioe Gynradd Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015, ‘Y Dyn na fu Erioed’, sydd yn olrhain bywyd bachgen o Aberbargoed a newidiodd gwrs hanes am byth.

Pan ges i’r cyfle i weithio gyda Sara a’r tîm cynhyrchu – “shamazing” fel y byddai Sara yn dweud – doedd dim dwywaith fy mod i’n mynd i gymryd y cyfle.

Mae Theatr na nÓg wedi bod yn garedig iawn i mi dros y blynyddoedd ac yn parhau i roi cyfleodd di-ri i mi. Cerddais mewn i ymarferion y Pasiant nôl ym mis Mawrth gyda dros 70 o wynebau bach yn syllu nôl arna i.

Taflais fy hunan mewn i’r ymarferion ac mae gwir fwynhad gen i yn ymarfer gyda phlant talentog ardal Caerffili.

Cynnig cyfle


Kate Harwood (top ochr dde y llun mewn cot a chap du) ym Mhasiant y Plant ‘Halen yn y Gwaed’ Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006
Dw i dal yn cofio bwrlwm yr ymarferion bron i ddeng mlynedd yn ôl pob penwythnos am fisoedd cyn y noson fawr.

Roedd bod mewn ystafell efo 70 o bobl eraill yn ffordd grêt o wneud ffrindiau newydd ac yn ffodus i mi dw i dal yn ffrindiau agos gyda rhai unigolion heddiw. Mae llun y cast dal yn hongian yn browd yn ystafell gefn tŷ mam a dad.

Roedd perfformio ar lwyfan enfawr y pafiliwn fel plentyn deg oed yn rhywbeth na all pawb ddweud y maen nhw wedi profi. Dyma un o nifer o brofiadau mae’r Urdd yn cynnig i bobl ifanc Cymru.

Rydw i wir wedi mwynhau gweithio gyda’r plant yn y Pasiant eleni. Rhaid i ni gofio mai dim ond wyth, naw a deng mlwydd oed ydi’r plant yma.

Mae’r cast yn un gwych sy’n gweithio’n galed ym mhob ymarfer ac mae’r sioe yn un sydd wir yn dangos talent plant Caerffili. Mae clywed dros 70 o blant ifanc yn sgwrsio a chymdeithasu yn y Gymraeg wir yn gwneud i mi wenu.

Mae’r holl waith caled yn glir yn y cynhyrchiad gyda chaneuon trawiadol Dyfan Jones a choreograffeg ifanc a ffres Elan Isaac sy’n dod â’r llwyfan yn fyw.

Ble nesaf?


Y plant yn ymarfer ar gyfer Pasiant eleni, 'Y Dyn na fu Erioed'
Mae’r Urdd wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd i ers yn  bum mlwydd oed. Roedd cael y cyfle i fod yn rhan o Basiantau nid unwaith ond dwywaith yn brofiadau sydd wedi gwneud argraff fawr ar fy mywyd a phrofiadau dw i’n gwerthfawrogi o waelod fy nghalon.

Fel myfyrwraig Drama yn yr Atriwm  sydd newydd orffen fy ail flwyddyn, dw i’n ceisio cymryd pob cyfle i weithio ar fy ngyrfa yn y byd celfyddydau, ac mae cael y cyfle i weithio gyda chwmni mor adnabyddus â Theatr na nÓg yn brofiad “shamazing”.

Dw i’n ddiolchgar iawn o allu gweithio gyda phobl wych y byd cyfarwyddo. Tybed ble fydda’i ymhen deng mlynedd arall?

Diolch i Theatr na nÓg, Sara Lewis a phawb ar dîm ‘Y Dyn na fu Erioed’ am y profiad yma!

Bydd cynhyrchiad ‘Y Dyn na fu Erioed’ yn cael ei pherfformio nos Fawrth 26 Mai ym Mhafiliwn Eisteddfod yr Urdd. Am docynnau ewch i wefan yr Urdd.

Roedd Kate Harwood yn ferch ifanc 10 oed pan gafodd ei dewis i chwarae’r brif ran ym Mhasiant y Plant ‘Halen yn y Gwaed’ sef cynhyrchiad Theatr na nÓg (Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006). Dychwelodd Kate i Theatr na nÓg bum mlynedd yn ôl ar gyfnod o brofiad gwaith ac fe ysgogodd hyn i Kate astudio drama a’r theatr yn yr Atrium yng Nghaerdydd. Mae’r cwmni theatr yn credu’n gryf mewn meithrin talent mewn pobl ifanc ac i fuddsoddi yn nyfodol y celfyddydau yng Nghymru, felly fe wahoddwyd Kate yn ôl i gynorthwyo Sara Lewis o na nÓg gyda’r sioe gynradd yr Urdd eleni ‘Y Dyn na fu Erioed’.