Michael Sheen (Gage Skidmore CCA 3.0)
Fe fydd archif o dros 100,000 o drysorau sydd wedi eu casglu dros y degawdau diwethaf yn cael ei ddiogelu.

Ac mae hynny wedi cael ei groesawu gan un o’r actorion Cymreig enwoca’ Michael Sheen.

Fe fydd y casgliad, sy’n cynnwys dros 950 o deitlau Cymreig a thua 4,500 o gyfrolau gan gynnwys dramâu gwreiddiol Cymraeg – wedi ei symud i gartref newydd yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd..

Mae’r archif wedi ei alw’n “ased diwylliannol” ac, ar ôl y cytundeb rhwng y Coleg, Cymdeithas Ddrama Cymru a Chyngor y Celfyddydau, fe fydd bellach yn llawer haws i’r cyhoedd gael gafael arno.

‘Gwerth diwylliannol’, meddai Sheen.

“Mae gwerth diwylliannol sylweddol i’r casgliad hwn o ddramâu ac mae’n hollbwysig ei fod yn cael ei ddiogelu ar gyfer y genedl,” meddai’r actor Michael Sheen sydd hefyd yn un o noddwyr Cymdeithas Ddrama Cymru.

Ychwanegodd Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Hilary Boulding fod peryg y byddai’r archif wedi ei golli heb gael ei drosglwyddo i’r coleg:

“Roedd perygl mawr y byddai wedi ei golli fel arall ac, yn ein rôl fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac un o brif ysgolion drama y DU, mae fel petai’n iawn mai ni ddylai ddiogelu’r adnodd pwysig hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o ysgolheigion, myfyrwyr a’r cyhoedd sy’n mwynhau theatr.”