Megan Morgans
Megan Morgans fu’n gwylio cynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws …

Fe fues yn ffodus iawn i fedru bachu tocyn i weld y ddrama ‘Garw’ yn y Chapter yng Nghaerdydd cyn i bob sedd gael ei gwerthu. Clywais ganmoliaeth gref i’r ddrama cyn mynd i’w gweld, a sicrhaodd sgript glyfar Siôn Eirian ac egni’r actorion brofiad pleserus.

Trafod y cyfnod ôl-ddiwydiannol a wna’r sgript, cyfnod sy’n gyfarwydd i mi, ar ôl ei astudio mewn llu o wersi hanes yn yr ysgol a’r Brifysgol.

Ond canolbwyntia’r ddrama ar ongl wahanol ac anghyfarwydd o’r cyfnod: y newidiadau yn rôl y gwŷr a’r gwragedd yn y Cymoedd. Mae’n seiliedig ar Llew, sef tad y teulu, yn gorfod profi ei wrywdod ar ôl colli ei swydd fel glöwr, a Sara, y fam yn gorfod cymryd y cyfrifoldeb o gynnal y teulu.

Dwylo

Mae pwyslais clyfar ar ddwylo yn ‘Garw’. Cyfeirir o hyd at y gwahaniaethau rhwng dwylo garw a mawr Llew, a dwylo bach a medrus Sara – fel y mae Sara’n dweud : ‘Bysedd menyw chi’n gweld. Na’r dyfodol…’

Trwy ddefnyddio delweddau tebyg, mae Siôn Eirian yn llwyddo i gyfleu’r cyfnod yn gynnil ac effeithiol.

Roedd naws y ddrama yn drwm a’r themâu’n ddigon i ddigalonni’r gynulleidfa. Er bod ychydig o hiwmor wedi cael ei ddefnyddio i godi calon, roeddwn yn gadael y theatr yn teimlo’n drist.

Byddwn wedi hoffi gweld mwy o hiwmor i ysgafnhau’r awyrgylch. Ond, wedi dweud hyn, roedd y sgript yn gampwaith, awgrymaf i unrhyw un ei darllen.

Roedd Rhys Parry-Jones, a chwaraeai rôl y tad, yn wych. Daethom i adnabod ei gymeriad yn hynod o dda – ei benderfyniad i brofi ei hun, ei ochr emosiynol, a’i hiwmor arbennig. Llwyddodd i bortreadu cymeriad cymhleth a chredadwy.

Eiry Thomas oedd yn chwarae rôl y fam. Ar ddechrau’r ddrama nid oeddwn yn or-hoff ohoni, roeddwn yn ymwybodol ei bod hi’n actio, tra bod Rhys Parry-Jones (Llew), Gwawr Loader (Lowri) a Sion Ifan (Jerry) yn fwy naturiol.

Efallai mai chwaeth bersonol oedd hynny, ond erbyn diwedd y ddrama roeddwn wedi anghofio ac yn hoff o’i chymeriad.

Blas o’r cyfnod

Set digon syml oedd i’r ddrama: ychydig o lefelau, bwrdd, cadeiriau a lein ddillad. Yn ogystal roedd defnydd garw ar hyd wal gefn y llwyfan i gyfleu’r graig mewn pwll glo, i’n hatgoffa ni o gefndir diwydiannol y cymeriadau.

Roedd y set yn dywyll a’n ddi-liw, efallai’n symbol o dlodi a chaledi’r cyfnod. Ar y cyfan ni chefais fy syfrdanu gan y set.

Cyn i’r ddrama ddechrau a rhwng golygfeydd, roedd clipiau radio o’r cyfnod yn cael eu chwarae, er enghraifft Margret Thatcher yn gadael Stryd Downing.

Roedd y defnydd o’r clipiau’n effeithiol; yn rhoi blas i ni o’r cyfnod, a’r newidiadau cymdeithasol wrth i’r ddrama fynd yn ei blaen.

Ar y cyfan, roedd y ddrama’n llwyddiant. Nid dyma’r ddrama orau i mi ei gweld, ond yn sicr pe bawn yn cael y cyfle i weld ‘Garw’ eto, mae’n siŵr y byddwn yn gwerthfawrogi’r cyffyrddiadau clyfar yn fwy’r ail waith.

Er bod y ddrama’n awr a hanner o hyd, heb doriad, nid oeddwn wedi diflasu o gwbl, hyd yn oed yn ystod y golygfeydd trist.

Marc – 7/10