Actores a oedd yn portreadu’r fam yn y ffilm o nofel Caradog Prichard fydd yn cyfarwyddo drama newydd yn seiliedig ar ei waith eleni.

Er mwyn dathlu hanner canrif ers cyhoeddi Un Nos Ola Leuad, mae Betsan Llwyd wedi addasu’r nofel ar gyfer fersiwn llwyfan newydd i gwmni Bara Caws.

Mae’r cynhyrchiad yn seiliedig ar addasiad o’r nofel gan John Ogwen a Maureen Rhys ar gyfer Cwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod 1981, flwyddyn ar ôl i’r nofelydd farw.

“Roedd eisiau ei hehangu hi fwy am mai cyflwyniad, mewn ffordd, oedd yr un gwreiddiol,” meddai Betsan Llwyd, sydd hefyd yn cyfarwyddo ac wedi defnyddio’r sgript wreiddiol gan droi nôl at y nofel i dynnu ar rai o’r themâu.

“Ro’n i’n sylweddoli ei bod hi’n nofel fawr ond do’n i ddim yn wirioneddol deall a dirnad,” meddai Betsan Llwyd am ddarllen y nofel yn yr ysgol.

“Dois i yn ôl at y nofel wedyn pan ges i gynnig rhan y Fam yn y ffilm. Roedd honno yn dywyll iawn.”

Un Nos Ola Leuad (Bara Caws), ar daith o ddydd Mawrth, Mawrth 8 – Sadwrn, Ebrill 2

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 24 Chwefror