Y cast
Fe fydd cwmni theatr Bara Caws yn camu’n ôl mwy na 30 mlynedd wrth atgyfodi un o sioeau cynhara’r cwmni.

‘Hwyliau’n Codi’ oedd un o rifiws cyntaf y cwmni, a berfformiwyd gyntaf yn 1979 ac fe fydd yn mynd ar daith eto gyda chast newydd y gwanwyn yma.

Os bydd y sioe yma’n llwyddiant, fe allai weld y cwmni’n mynd yn ôl at ei wreiddiau gyda rhagor o gynyrchiadau deifiol.

Yn ôl cyfarwyddwr artistig y cwmni, Betsan Llwyd, ar ei blog, mae hi eisiau gweld os yw’r sioeau cymdeithasol-wleidyddol cynnar yn dali fod yn berthnasol ac yn denu cynulleidfa heddiw.

Cefndir y sioe

Cafodd ‘Hwyliau’n Codi’ ei dyfeisio yn wreiddiol gan griw craidd cychwynnol y Theatr, yn ddrama am fywyd caled morwyr o’r 19fed ganrif a oedd yn gweithio ‘r Brodyr Davies, perchnogion cwmni llongau llewyrchus o Borthaethwy.

Roedd cwmni’r Daviesiaid yn gyfrifol am gludo cannoedd o Gymry, glo a nwyddau o Lerpwl a Llundain i bedwar ban byd, ac yn dychwelyd gyda chargo o bob math,

Ond roedd ochr arall i’r geiniog. Roedd y colledion ymysg y llongau’n uchel, sawl un yn diflannu am byth, a nifer o’r morwyr yn cael eu sgubo oddi ar y dec neu’n syrthio i’r môr  mewn tywydd tymhestlog.

Adolygadau da

Cafodd y ddrama-rifiw adolygiadau da y tro cyntaf.

Disgrifiodd Eifion Glyn hi fel “Darlun difyr, ond creulon o gofiadwy” a dywedodd Marion Eames: “… fe’m hyrddiwyd o dristwch i chwerthin, yr emosiynau ar drugaredd y cwmni yn llwyr…”

Mae Betsan Llwyd hefyd yn cofio gweld y ddrama am y tro cyntaf a’r effaith a gafodd arni. Ei gobaith yw creu rifiw arall os bydd hwn yn llwyddiannus.

“Dw i’n cofio gweld y sioe yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth – sioe llawn hwyl, llawn brwdfrydedd, yn llon ac yn lleddf.  Yn ddifyr, wleidyddol, addysgiadol ar yr un pryd.

“Os bydd yr ymateb yn gadarnhaol i’r math yma o gyflwyniad dw i am barhau â’r syniad gan gasglu criw o actorion ynghyd – criw sy’n dymuno cydweithio yn y ffordd yma i greu rifíw newydd ar bwnc cyfredol yn y dyfodol.”

Yr actorion fydd Rhian Blythe, Mirain Haf, Carwyn Jones a Rhodri Sion a bydd y ddrama yn mynd ar daith ym mis Ebrill.