Mae enwebiadau gwobrau’r Baftas wedi eu cyhoeddi heddiw, gyda chynhyrchiad newydd Steven Spielberg, ‘Lincoln’ wedi ei enwebu mewn 10 categori.

Gyda 9 enwebiad yr un mae ffilm Ang Lee ‘The Life of Pi’, a’r addasiad o’r sioe ‘Les Miserables’.  Mae’r ddwy ffilm yma a ‘Lincoln’, wedi eu henwebu yng nghategori’r ffilm orau, gyda ‘Argo’ a ‘Zero Dark Thirty’ hefyd yn ennill enwebiadau.

Mae’r ffilm James Bond ddiweddaraf ‘Skyfall’ wedi ennill clod, gydag wyth o enwebiadau, gan gynnwys y ffilm Brydeinig orau, ac enwebiadau i Javier Bardem a Judi Dench am yr actor ac actores cynhaliol orau.

Mae Ben Affleck wedi cael ei enwebu ar gyfer yr actor gorau a’r cyfarwyddwr gorau am ei ffilm ‘Argo’, sydd wedi cael saith o enwebiadau.

Bydd Affleck yn wynebu Hugh Jackman, Daniel Day-Lewis, Joaquin Phoenix a Bradley Cooper ar gyfer gwobr yr actor gorau.

Ymhlith y merched, mae Helen Mirren yn cael enwebiad am ei rôl yn ‘Hitchcock’, gyda Emmanuelle Riva, Jennifer Lawrence, Jessica Chastain a Marion Cotillard hefyd ar restr y brif actores.