Jabas
Mae yna sawl perl wedi bod ar S4C ers 30 mlynedd. Dyma 30 o’r golygfeydd, y cymeriadau a’r dywediadau mwya’ cofiadwy yn nhyb Non Tudur… wrth gwrs mae lawer mwy. Croeso i chi gynnig eich hoff olygfa chi yn y blwch sylwadau…

1. “Glyn.” “Glyn be’?” “Glyn … Ffidich…. ia! Gofynnwch i Mr Picton!” – Wali Tomos yn roi ei seis nains ynddi ar Cmon Midffild.

2. “Oh my god Dai… bend ze kneez!” “Pwy ddiawl yw Denise?” – Dai Jones ar y piste sgïo, gyda Wil yr Hafod. Clasur.

3. “Nid tedi cyffredin mohono bellach ond… Superted” – y tedi blewog yw arwr mwya’r sianel yn ddi-os, heblaw am Jeni Ogwen

4. “Da chi’n gwybod y ffordd i Nefyn?” – un o ddywediadau mwya’ poblogaidd y sianel am gyfnod. Gwyn Vaughan Jones oedd yn holi gyrrwyr diniwed ar y gyfres sgetsys a chân, Hapnod, a grewyd gan Cefin a Rhian Roberts

5. “Mi gei di dd’eud tata… fforefar” – Joni Jones yn cael hunllefau ar ôl llyncu gwm cnoi wedi iddo gael ei rybuddio gan ei ffrindiau y gallai farw

6. ‘Ni fydd y record hon ar gael i’w phrynu yn eich siopau…’– y soft-focus, y frest flewog a’r tsiaeniau aur… dim ond Dewi Pws fyddai’n gallu meddwl am y fath gymeriad â Ricky Hoyw, un o sgetsys gorau Torri Gwynt.

7. Magi Post ar Pobol y Cwm. Duwies y sgrin.

8. Wali Tomos a Mr Picton yn cael eu holi gan Ian Gwyn Hughes o Fronmeirion Bangor ar Cmon Midffild.

9. J.O. Roberts yn farchog godidog yn y ffilm Owain Glyndŵr o 1983

10. ‘Helo. A croeso i Fideo 9’ – Eddie Ladd oedd y peth mwya’ cŵl ar y teledu am gyfnod, fel cyflwynydd y gyfres miwsig arloesol, Fideo 9. Enillodd y cynhyrchydd Geraint Jarman genhedlaeth newydd o ffans am oes.

11. Ioan Gruffudd ar Pobol y Cwm. Roedd ei sdint ar y sebon yn werth pob ceiniog i’r sianel am fod y gyfres yn cael mensh ym mhob un o’i gyfweliadau (parch i’r actor am ddewis Superted, Sgorio, Fideo 9, Torri Gwynt, a Jabas fel ei hoff raglenni yn y Western Mail).

12. “Weli di hon? Hon sy’n beryg” – rhaid mai Les yw cymeriad gorau Bryn Fôn ar ôl Tecs, gyda’i fwstash, ei fotobeic a’i ffisticyffs ar Talcen Caled.

13. “Blydi hel, Bithan!” – doniau dynwared ac actio Caryl Parry Jones ar eu gorau yn Ibiza Ibiza; a Glenys a Rhisiart yn canu cerdd dant ac adrodd Y Llwynog; Chiz yn Chiz

14. Dywediad Picsi ar y gyfres Jabas gan Penri Jones – ‘dw i di cael brên-wêf.’

15. Swig o Port/Rhym/Bacardi – rhaglenni ieuenctid Eisteddfodau Porthmadog, Cwm Rhymni ac Aberystwyth ar ddechrau’r 90au. Cymeriadau bythgofiadwy gan Rhys Ifans a Meirion Davies, fel Dazzer Dean ‘The Epileptic Sex Machine’; y DJ Hywel Pop – “wel, ag a liciwch fi”; a’r ffarmwr ifanc blewog, “Horni”, a’r ddau Frank wrth sgwrs. Perlau coll.

16.“Ffalabalam-balwm-balam-balê”. Byd Huwcyn, Bwni Binc, Meical Mwnci a Sara.

17. Beth Robert fel y wraig ffroenuchel ar Con Passionate. Portread y ddegawd.

18. Meic Povey fel y dihiryn Mordecai ar Y Dyn Naeth Ddwyn y Dolig.

19. Hanner Dwsin – cartŵn am fand rocarôl Cymraeg. Pam nad yw e’n dal ar y sgrin?

20. Dic Deryn ar Pobol y Cwm – un o ddihirod hoffus y sianel. Cwpwl o rai drwg da wedi bod ar y sebon ers hynny, fel Dr Geraint (Phil Reid) a’r ficer (Ioan Evans) yn colli ei bwyll.

21. “A Bi Ec, ar bob cyfri, Les…” – portread Hefin Wyn fel Meic Parry ar Talcen Caled. Ail agos iawn i Beth Robert, Con Pash.

22. ‘Mynd i Landybïe, heb weud ïe’ – y gêm Gymreicia’ erioed ar S4C, onid e? A’r fersiwn agosa’ gawn ni byth i Just a Minute. Nia Jones oedd yn profi gallu geiriol y plant cyn eu gwthio lawr y sleid

23. Y criw i gyd ar y traeth ar ddiwedd Jabas.

24. “Raslas bach a mawr, Plwmsan!” – a oedd taflu slepjans yn dreisgar?

25. ‘Wy’n mynd i ladd y blydi mochyn… blydi static!’ – teulu 66 Chemical Gardens ar Torri Gwynt.

26. Angharad Mair ar Bilidowcar.

27. Yr Awr Fawr – Slim ac Emyr Wyn – pâr delfrydol i blant. Ac fe barodd y cartŵn Shazam! i ieuenctid Cymru esgus rhannu modrwy hud am flynyddoedd.

28. ‘Siawns am gêm?’ – ymddangosiad Mark Hughes ar ddiwedd pennod ‘Gweld Sêr’ ar Cmon Midffild. ‘Fudis i, do?’ ‘Do, Wali. Mi ddudist di.’

29. ‘West is best, bois, West is best!’ – cameo Ray Gravell mewn string vest mewn caffi ar y comedi Grito’r Hewl i Fethlehem gan y brodyr Williams o Grymych. Hefyd arno roedd Brychan Llyr, Jennie Ogwen, Peter John a Gary Slaymaker.

30. ‘Maaaadge…’ – Minafon, un o’r clasuron, a John Ogwen fel y stýd yn ei siaced ledar.