Mae actor adnabyddus yn dechrau ymgyrch i geisio sicrhau bod dramâu a ffilmiau Cymraeg ar gael ar DVD.

Yn ôl yr actor Grey Evans, mae diffyg mawr yn y maes ac mae’n casglu enwau pobol adnabyddus ar Faes yr Eisteddfod er mwyn cael cefnogaeth i’r syniad.

Roedd yn pwysleisio’n arbennig yr angen am sicrhau bod archif rhaglenni a ffilmiau ar gael i bobol eu prynu –  Mae yna alw mawr gan y cyhoedd. Ond lle mae’r Gymraeg? Dydi hi ddim yna.”