Gary Speed a'i wraig
Y rhaglen ddogfen gynta’ i’w gwneud gyda chefnogaeth teulu cyn reolwr trasig Cymru, Gary Speed, fydd un o gynyrchiadau cynta’ Comisiynydd Cynnwys newydd S4C.

Fe gyhoeddodd y sianel yn yr Eisteddfod fod Llion Iwan wedi comisiynu rhaglenni dogfen ar Speed, ar y bardd Gerallt Lloyd Owen, ac ar y canwr Gruff Rhys a’i daith ar drywydd un o’i gyndeidiau, John Evans o Waunfawr.

“Fe fydd y ffilm ddogfen yn bwrw goleuni o’r newydd ar fywyd a gyrfa aruthrol Gary Speed,” meddai Llion Iwan.