Mae dros 1,500 o bobol wedi mynychu Rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i brotestio yn erbyn y toriadau arfaethedig i S4C yng Nghaerdydd heddiw.

Yn rali ‘Na i Doriadau, Ie i S4C newydd’ – un o brotestiadau mwyaf Cymdeithas yr Iaith ers degawdau, mae cadeirydd newydd y mudiad wedi galw am annibyniaeth i S4C ac wedi sôn fod Cymru yn wynebu colli’r sianel.

Mae’r Gymdeithas yn dweud fod “toriadau’r Torïaid yn mynd i ddinistrio’r sianel yr ymgyrchwyd mor galed i’w chael” ac yn galw ar bobol i gefnogi “dechreuad newydd i unig sianel teledu Cymraeg y byd.”

Maen nhw hefyd yn gofyn ar gefnogwyr i beidio â thalu trwydded deledu o Ragfyr y 1af ymlaen hyd nes y mae Llywodraeth San Steffan wedi sicrhau annibyniaeth y sianel.

“Blin”

Fe ddywedodd Rhys Llwyd, Is-gadeirydd y Gymdeithas wrth Golwg360 ei bod yn “amlwg fod pobol yn flin” yn y brotest – ond fod teimlad o “obaith” hefyd.

“Mae teimlad fod pawb, gyda’n gilydd, yn gallu newid pethau,” meddai, cyn dweud mai tua 500 yr oedd y Blaid wedi’i ddisgwyl a bod yr awyrgylch yn “wych.”

Ymhlith y siaradwyr roedd Ieuan Wyn Jones AC, Angharad Mair, Menna Machreth a David Donovan (undeb darlledu BECTU).

Eisoes, mae cadeirydd newydd y mudiad wedi dweud wrth Golwg360 bod mwy yn y fantol nag annibyniaeth S4C wrth gyfeirio at y Mesur Cyrff Cyhoeddus sy’n mynd drwy San Steffan ar hyn o bryd – fyddai’n caniatáu i weinidogion diddymu S4C a chwtogi ar ei chyllideb heb orfod ymgynghori gyda’r senedd.