Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, wedi datgelu mwy o fanylion ynglŷn â sut bydd y BBC yn ariannu S4C mewn llythyr at Gadeirydd Ymddiriedolaeth y gorfforaeth, Syr Michael Lyons.

Mae’n golygu y byddai’r S4C a’r BBC yn rhannu’r gwaith o benodi bwrdd ar gyfer y sianel y byddai gan y BBC hefyd lais mewn creu cytundeb gweithredu a gosod strategaeth ac amcanion bras o ran cynnwys y sianel.

Yn ôl y llythyr fe fydd arian S4C yn dod o dair ffynhonnell – y drwydded deledu, rhywfaint o arian gan y Llywodraeth, ac incwm masnachol o hysbysebion – gyda thoriad o 25% dros bedair blynedd.

Dyma rai o’r prif bwyntiau:

• Fe fydd Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C yn penodi bwrdd gweithredol S4C.

• Dywedodd Jeremy Hunt y byddai gan y bartneriaeth rhwng S4C a’r BBC “yr un egwyddor â BBC Alba” ac y byddai’n dechrau yn 2013/14. Byddai hynny’n golygu cytuno ar y cyd ar amcanion stategol ac anghenion cynnwys bras.

• Ychwanegodd na fydd S4C yn cael ei “brandio” yn un o wasanaethau’r BBC.

• Bydd rhaid i’r BBC gynnal cyllideb y sianel ar y lefel sydd wedi ei gytuno yn ystod y cyfnod yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr, meddai.

• Ond fe fydd yna adolygiad pellach o strategaeth ac arian S4C yn cael ei gynnal o fewn y pum mlynedd nesaf.

‘Ddim yn gynaliadwy’

Dywedodd Jeremy Hunt bod y Llywodraeth yn ymroddedig i wasanaeth teledu Cymraeg cref ac annibynnol, ond “nad oedd model S4C yn gynaliadwy ar ei ffurf bresennol”.

Ychwanegodd bod rhaid i S4C gynnal ei “brand a’i chymeriad golygyddol ei hun, yn ogystal â’i pherthynas arbennig gyda’r sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru”.

Amserlen ariannu

Yn 2011/12 a 2012/13, fe fydd y Llywodraeth yn parhau i ariannu’r gwasanaeth.

Yn 2013/14 a 2014/15 fe fydd y BBC yn cyfrannu £76.3m a £76m at y sianel, a bydd y Llywodraeth yn cyfrannu £6.7m yn 2013/14 a £7m yn 2014/15.