Fe fydd y BBC yn dod yn gyfrifol am gost cynnal S4C.

Dyna’r cyhoeddiad annisgwyl heddiw wrth i’r Gorfforaeth glywed y bydd pris ei thrwydded yn cael ei rewi am chwe blynedd.

Y disgwyl yw y bydd cyhoeddiad swyddogol yn cael ei wneud fory yn ystod y datganiad ar yr Arolwg Gwario Cyhoeddus.

Roedd S4C eisoes wedi cyhoeddi eu bod am geisio gweitho’n agosach gyda’r BBC yng Nghymru, ond doedd dim argoel y byddai ei harian bellach yn dod o’r drwydded.

Ddim yn glir

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd S4C yn cael ei llyncu gan y Gorfforaeth neu a yw’n fater syml o gymryd peth o arian y BBC a’i roi i’r sianel – yn hytrach na’r setliad ychwanegol sydd gan y sianel ar hyn o bryd.

Dyw hi ddim yn glir chwaith pwy fydd yn penderfynu ar faint cyllideb S4C o hyn ymlaen.

Mewn cyfweliadau gyda Phrif Weithredwr Dros Dro’r sianel yr wythnos yma, doedd dim sôn am y datblygiad newydd.

Dyw’r BBC ddim wedi rhoi sylw swyddogol ond mae’r stori’n ar fwletinau’r Gorfforaeth.