John Walter Jones
Mae llythyrau mewnol yn awgrymu fod yna ddryswch rhwng cadeirydd awdurdod S4C a chyn brif weithredwr y sianel ynglŷn â derbyn toriadau cyllid Llywodraeth San Steffan.

Mae’r dogfennau a gafodd eu rhyddhau i’r AC Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas, dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth yn awgrymu bod y prif weithredwr wedi cytuno i’r toriadau ar yr un adeg ag oedd y cadeirydd yn eu gwrthod.

Roedd Adran Ddiwylliant Llywodraeth San Steffan wedi dweud bod S4C wedi cytuno i dorri ei gyllideb £2m ond mae llythyr gan gadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones, yn gwrthddweud hynny.

Mae’r dogfennau yn dangos bod John Walter Jones wedi dweud wrth Jeremy Hunt ar 21 Mai eleni na fyddai’n gyfreithlon torri £2m oddi ar gyllideb y sianel.

Ond ar 24 Mai ysgrifennodd Jeremy Hunt at Awdurdod S4C yn dweud eu bod nhw eisoes wedi cytuno i’r toriadau £2m yn eu cyllideb.

Mae’r dogfennau yn awgrymu bod cyn brif weithredwr S4C, Iona Jones, wedi cytuno i’r toriadau £2m, tua’r un adeg ag oedd John Walter Jones yn eu gwrthod.

Gadawodd Iona Jones ei swydd ar ôl cyfarfod gydag Awdurdod S4C ddiwedd mis Gorffennaf a dyw hi ddim yn amlwg eto ai’r anghytundeb ynglŷn â’r toriadau £2m oedd y rheswm am hynny.

Ymateb Rhodri Glyn Thomas

“Mae’r wybodaeth ydyn ni wedi ei dderbyn yn dangos bod S4C wedi ei gwneud hi’n gwbl glir y bydden nhw’n gweithredu’n anghyfreithlon pe baen nhw’n cytuno i ddychwelyd unrhyw arian,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

Dywedodd nad oedd yr Adran Ddiwylliant wedi rhyddhau’r gwybodaeth “o’u gwirfodd” a bod Plaid Cymru wedi bygwth cyfeirio’r mater at y Comisiynydd Gwybodaeth.

“Mae’r llythyrau yn dangos bod cadeirydd S4C wedi ei gwneud hi’n gwbwl glir na fyddai’n gyfreithiol i Awdurdod S4C gytuno i dorri cyllideb y sianel o’u gwirfodd.

“Er gwaethaf hynny, roedd Jeremy Hunt yn benderfynol o fwrw ymlaen gyda’r toriadau, beth bynnag y gyfraith.

“Beth ddigwyddodd wedyn ydi bod aelodau o’r awdurdod wedi penderfynu am eu rhesymau eu hunain i greu creisus mewnol drwy orfodi prif weithredwr S4C, Iona Jones, o’i swydd.

“Fe wnaeth hyn wanhau S4C yn ddifrifol a’i roi e mewn sefyllfa ble’r oedd amddiffyn ei hun rhag y toriadau yn anodd iawn.

“O dan yr amgylchiadau roedd rhaid i bobol o’r tu allan i S4C gymryd yr awenau wrth amddiffyn y sianel rhag toriadau.

“Mae’r cyngor cyfreithiol yn glir, ac mae’n rhaid i Jeremy Hunt fod yn ymwybodol ei fod e’n wynebu her gyfreithiol os ydi e’n parhau i ofyn am doriadau.”

Ymateb S4C

Mae disgwyl y bydd yr Adarn Ddiwylliant yn gofyn i S4C wneud toriadau o tua 25% i’w chylliudeb £100m y flwyddyn dros gyfnod o bedair mlynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr adran eu bod nhw wedi “cyhoeddi gostyngiad £2m yng nghyllideb S4C ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Cytunodd S4C i hynny.”

Mewn datganiad, dywedodd S4C eu bod nhw “wedi dweud yn barod nad oedden nhw wedi gwirfoddoli’r toriad £2m. Dyw S4C ddim wedi talu unrhyw beth yn ôl i’r Adran Ddiwylliant.”