Meri Huws
Mae Cadeirydd Bwrdd yr iaith wedi ymuno yn y brotest yn erbyn y toriadau posib i gyllid S4C.

Dywedodd Meri Huws wrth Golwg ei bod yn “gwbl sicr fod S4C wedi gwneud cyfraniad unigryw i ffyniant diweddar yr iaith Gymraeg.”

Er mwyn sicrhau ffyniant yr iaith mae’n dweud ei bod yn “hanfodol” fod S4C yn “parhau i chwarae rhan allweddol ym mywyd Cymru” ac yn dadlau y bydd “unrhyw ostyngiad yng nghyllid y sianel yn cael effaith negyddol lle bo dyfodol yr iaith Gymraeg yn y cwestiwn.”

Cymru mewn lle gwell na ieithoedd lleiafrifol eraill

Mae’r Cadeirydd hefyd yn datgan fod y “rhan fwyaf o ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop yn cael eu tangynrychioli’n ddybryd ar y teledu” ac fod hynny wedi cyfrannu at ddirywiad yr ieithoedd hynny, Ond bod Cymru mewn sefyllfa wahanol.

“Mae Cymru, mewn cymhariaeth, mewn sefyllfa llawer iachach, ac mae’r ffaith fod gennym sianel deledu Cymraeg ers bron i dri degawd bellach wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol.”

Help i ddysgwyr

Hefyd, mae’r Cadeirydd yn dweud fod S4C wedi bod yn “ffynhonnell amhrisiadwy o gefnogaeth ar gyfer y nifer gynyddol o bobl – yn oedolion a phlant – sy’n dysgu’r Gymraeg.”

“Mae datblygiadau diweddar S4C o ran ymestyn y rhaglenni i blant a theuluoedd ifanc yn arbennig o galonogol. Mae darparu gwasanaeth teledu o safon uchel ar gyfer y grŵp targed allweddol hwn yn hollbwysig o ran sicrhau ffyniant a statws yr iaith Gymraeg.”

Fe fydd y datblygiad hwn yn “cryfhau’r iaith ymysg teuluoedd,” ac yn “darparu cyd-destun bywiog a chyfoes ar gyfer yr iaith yn y byd modern,” meddai Meri Huws.