Owen Edwards
Bu farw Cyfarwyddwr cynta’ S4C, Owen Edwards, yn 76 oed. Roedd wedi bod yn brwydro’r clefyd Parkinson ers rhai blynyddoedd.

Fe ddechreuodd ar ei yrfa ddarlledu yn gyflwynydd rhaglen Dewch I Mewn i gwmni Granada. Yna, yn 1961, symudodd i weithio i Gaerdydd pan ddaeth yn gyflwynydd rhaglen gylchgrawn Heddiw.

Ond wedi cyfnod o flaen y camera, penodwyd Owen Edwards yn Drefnydd Rhaglenni, ac yna’n Bennaeth Rhaglenni, gyda BBC Cymru, ac ef oedd Cyfarwyddwr cynta’ S4C pan sefydlwyd y sianel yn 1982.

Roedd yn fab i sylfaenydd mudiad Urdd Gobaith Cymru, Syr Ifan ab Owen Edwards; roedd yn wyr i’r ysgolhaig a’r llenor, O M Edwards; ac yn frawd i Prys Edwards.