Alun Davies
Dylai pob aelod o Awdurdod S4C ymddiswyddo er mwyn gwneud lle ar gyfer wynebau newydd, yn ôl AC Llafur.

Dywedodd Alun Davies, cyn weithredwr ar y sianel, bod problemau’r sianel yn troi i mewn i “un o’r methiannau mwyaf sydd wedi taro’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ers blynyddoedd”.

“Fe ddylai aelodau presennol Awdurdod S4C ymddiswyddo ac fe ddylai pobol newydd ddod i mewn yn eu lle nhw,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.

“Maen nhw wedi profi eu bod nhw’n hollol analluog wrth gynnal y darlledwr sydd yn derbyn mwy nag £100m y flwyddyn o’r pwrs cyhoeddus.

“Mae’n annerbyniol nad ydi’r Awdurdod wedi gallu esbonio’n rhesymegol y digwyddiadau diweddar. Mae ei aelodau wedi colli ffydd pobol ar draws Cymru ac fe ddylen nhw fynd.

“Dydyn nhw ddim fel pe bai nhw’n sylweddoli fod yna gyfrifoldeb arnyn nhw i fod yn agored a thryloyw ynglŷn â’u penderfyniadau.”

Yr wythnos yma fe fu’n rhaid i bennaeth dros dro newydd S4C, Arwel Ellis Owen, amddiffyn ei CV ar un o raglenni Radio 4.

Yn ôl yr holwr ar The Media Show, roedd y cyn uchel swyddog yn y BBC wedi honni’n anghywir ei fod wedi bod yn olygydd ar raglenni amlwg fel Newsnight a Panorama.

Yn ôl Arwel Ellis Owen, doedd ‘e ddim wedi ceisio honni ei fod yn olygydd ar y cyfresi ond ei fod wedi bod â rôl allweddol yn y broses olygyddol mewn rhaglenni unigol.

Dywedodd Alun Davies bod perfformiad y prif weithredwr dros dro, Arwel Ellis Owen, ar Radio 4 wedi “codi cywilydd arno ef ac S4C”.