Arwel Ellis Owen
Mae newyddiadurwr profiadol a pherchennog cwmni cysylltiadau cyhoeddus wedi ei benodi yn Brif Weithredwr dros-dro S4C.

Ychydig cyn pump o’r gloch heddiw, fe gyhoeddodd Awdurdod S4C y byddai Arwel Ellis Owen yn dechrau ar ei waith ar unwaith, ac yn “pontio’r cyfnod hyd nes y penodir Prif Weithredwr parhaol”.

Fe fu Arwel Ellis Owen yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru ac yn bennaeth canolfan y BBC yng Ngogledd Iwerddon, ac mae’n arbenigwr ar wleidyddiaeth y rhanbarth hwnnw. Fe gafodd ei fagu yn Llanllyfni, Dyffryn Nantlle, yn fab y Mans ac yn frawd i’r actor a’r darlledwr, Wynford Ellis Owen.

Profiad

Mewn datganiad, dywedodd John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C:

“Fe fydd profiad helaeth Arwel ym maes darlledu yn gaffaeliad mawr mewn cyfnod o bwysau mawr ar y Sianel ac yn sicrhau parhad a sefydlogrwydd. Bydd yn dechrau yn y swydd ar unwaith, gan gydweithio â’r Awdurdod a’r staff.”

Dywedodd Arwel Ellis Owen ei fod yn falch o gael y cyfle i arwain y Sianel drwy’r misoedd nesaf a’i fod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r sector gynhyrchu a meithrin cysylltiad agos gyda gwylwyr S4C.

“Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyfle gwych i mi a staff S4C i gynnal trafodaeth gyda gwylwyr a chyflenwyr rhaglenni am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw,” meddai Arwel Ellis Owen.