Iona Jones
Mae dirgelwch yn y byd darlledu ar ôl y cyhoeddiad bod Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, wedi gadael ei swydd ar ôl cyfarfod o Awdurdod y sianel neithiwr.

Does dim rhagor o wybodaeth – dim ond cyhoeddiad mewn tair brawddeg ar wefan y sianel.

Dyw hwnnw ddim yn dweud mai ymddiswyddo wnaeth hi.

Roedd beirniadu wedi bod ar arweinyddiaeth y sianel tros ffigurau gwylio, yn arbennig ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol y sianel.

Brys

Er hynny, mae cyflymder y digwyddiad a byrder y datganiad yn drawiadol.

Y brys oedd wedi synnu Gwion Owain, cyn bennaeth cymdeithas y darlledwyr annibynnol TAC.

Fe ddywedodd wrth Radio Wales fod yna bryderon am arweinyddiaeth y sianel ac am y polisi wrth gomisiynu rhaglenni.

Roedd yn awgrymu hefyd y byddai pobol o fewn y diwydiant, o ganlyniad i’r newid, yn fwy tebygol o gefnogi’r sianel yn ei brwydr yn erbyn toriadau i gyllid S4C.

Mae ail frawddeg datganiad y sianel yn dweud fod “aelodau’r Awdurdod” yn diolch i Iona Jones.

Gyrfa Iona Jones

Roedd Iona Jones wedi codi’n gyflym o fewn byd darlledu ar ôl dechrau’n newyddiadurwraig gyda’r BBC. Fe ymunodd gydag S4C i ddechrau yn Gyfarwyddwr Materion Corfforaethol yn 1995.

Yn 2000 fe aeth at ITV am dair blynedd gan weithio ar bynciau fel y Mesur Darlledu cyn dod yn ôl i’r sianel yn 2003 yn Gyfarwyddwr Rhaglenni a chael ei phenodi’n Brif Weithredwr yn 2005.

Yr adeg honno, dyma oedd sylw Cadeirydd S4C ar y pryd, Elan Closs Stephens: “Edrychwn ymlaen at ddyfodol cyffrous a blaengar i’r Sianel o dan ei harweinyddiaeth.”

Mae Iona Jones yn 46 oed ac yn fam i dri o blant. Fe gafodd ei geni yn Hwlffordd, cyn i’w theulu symud i Lanbed ac wedyn i Gaerdydd pan oedd yn chwech oed.

Datganiad yr Awdurdod

Dyma’r datganiad ar wefan S4C

“Yn dilyn cyfarfod o Awdurdod S4C mae Iona Jones, Prif Weithredwr y Sianel wedi gadael S4C.

Dymuna Aelodau Awdurdod S4C ddiolch i Iona Jones am ei gwasanaeth i’r Sianel.

Ni fydd unrhyw sylw pellach.”