John Walter Jones
Mae Cadeirydd Awdurdod S4C yn dweud yn blwmp nad oes problem gyda nifer y bobol sy’n gwylio’r sianel.

Er bod ffigurau wedi eu gollwng sy’n awgrymu bod llai na 1,000 yn gwylio llawer o’r rhaglenni, mae John Walter Jones wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod “digonedd” o bobol yn gwylio.

Mae papurau newydd fel y Western Mail a The Sun wedi codi cwestiynau am ddyfodol y sianel oherwydd y ffigurau.

“O’r holl ddarlledwyr eraill yng Nghymru mae S4C ar y brig o ran gwerthfawrogiad i’w rhaglenni nhw, i’w cyfraniad nhw a beth mae pobol yn ei feddwl o’r sianel,” meddai John Walter Jones.

“Rhaid i bobol edrych ar y ffigyrau gwylio yma yng nghyd-destun Cymru, Cymraeg, a thu allan i Gymru.”

‘Cyfnod anodd i ddod’

Er hynny, mae Cadeirydd yr Awdurdod yn cydnabod bod cyfnod anodd o flaen S4C wrth i arian hysbysebion leihau.

Fe fydd yn fwy anodd buddsoddi yn y dyfodol, meddai nawr bod yr incwm o rannu sianel analog gyda Channel 4 wedi dod i ben wrth i’r Sianel droi’n uniaith Gymraeg.