Mae S4C a chwmni Rondo wedi gwrthod ymateb i honiad mewn papur newydd bod “neb” wedi gwylio un o’u rhaglenni teledu.

Yn ôl papur newydd y Western Mail mae ffigyrau gwylio’r rhaglen Sgorio, a gafodd eu cyhoeddi ddoe, yn datgelu nad oedd “neb” wedi gwylio’r rhifyn am 11.30pm ddydd Llun.

Mae’r papur yn honni bod yr ystadegau, sydd ar gael drwy danysgrifiad yn unig, yn dangos mai dyma’r “ffigwr gwylio teledu isaf yn hanes S4C”.

Ond dywedodd cwmni BARB, Bwrdd Ymchwil Cynulleidfa Darlledwyr, sy’n casglu’r ffigyrau, nad oedd ‘0 gwylwyr’ o reidrwydd yn golygu bod neb wedi gwylio’r rhaglen.

“Fe allai olygu bod nifer ystadegol di-nod wedi gwylio rhaglen,” meddai llefarydd ar ran BARB. Mae eu harolwg wedi’i selio ar arferion gwylio 5,100 o dai ar draws gwledydd Prydain.

Dywedodd Rondo nad oedden nhw am wneud sylw ar y mater.

Ymateb S4C

Dywedodd llefarydd ar ran S4C wrth Golwg360 bod Sgorio “yn rhan bwysig o arlwy chwaraeon eang S4C … ac wedi bod yn gyfres bêl-droed o bwys ar S4C ers dros ugain mlynedd.”

Hefyd, fe ddywedodd S4C bod y sianel yn “adolygu perfformiad ei holl raglenni yn rheolaidd a bydd yn parhau i ddatblygu ei gwasanaethau chwaraeon ar sail ymchwil cynhwysfawr o ran rhaglenni a gwylwyr”.

‘Cystadleuaeth’

“Roedd sgorio’n boblogaidd iawn i ddechrau’ ond mae yna fwy o gystadleuaeth rŵan, yn sicr,” meddai Dylan Wyn Williams, colofnydd teledu cylchgrawn Golwg.

Dywedodd nad oedd yn credu mai problem cynnwys a sylwedd oedd yn gyfrifol am y diffyg cynulleidfa.

“Mae cyfranwyr y rhaglen – Nic Parry a Dai Davies yn brofiadol iawn. Ond, Rygbi sy’n cael y sylw mwyaf . Er bod honno’n hen ddadl, mae’n wir.

“Fedra i ddim rhoi fy mys ar pam. Ond, does dim synnwyr mewn slot 11.30pm. Mae’n hwyr ar ddiwrnod ysgol a gwaith,” meddai Dylan Williams.