Mae cyfres deledu Cymraeg wedi ennill gwobr Brydeinig ‘ffilm gyffro orau’.

Mae 47 Copa, gan gwmni cynhyrchu Cwmni Da, yn dilyn yr anturiaethwr a chyflwynydd, Huw Jack Brassington, wrth iddo baratoi i redeg ‘Her 47 Copa Paddy Buckley’.

Wrth gyhoeddi mai’r gyfres hon sy’n deilwng, mae London Mountain Film Festival wedi canu ei chlodydd.

“Dyma sut i roi’r tempo cywir i stori am her,” meddai beirniaid yr ŵyl ffilmiau.

“A hyd yn oed cyn i chi wybod os ydy Huw Jack Brassington yn curo’r Paddy Buckley neu beidio, rydych eisoes yn gwybod ei fod yn chwedl o ddyn.”

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal y penwythnos hwn dros y we.

Yr her

Sialens rhedeg mynyddoedd yw ‘Her 47 Copa Paddy Buckley’ ac mae sawl copa eiconig ymhlith y 47, gan gynnwys copa’r Wyddfa a Thryfan.

Mae disgwyl i’r rheiny sy’n cymryd rhan i gwblhau’r cwrs o fewn 24 awr.