Mae ffilm ffeithiol gan fyfyrwyr o Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth wedi ennill yng Ngwobrau Teledu Myfyrwyr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yng Nghymru.

Thema Rutted Fields gan Sol Gardiner-Wade a Monika Bednarczyk yw bywyd amgen.

Mae’r ffilm yn cynnwys cannoedd o oriau o archif ffilm teulu o deithwyr modern mewn ffilm ffeithiol sy’n para am bymtheg munud.

Cafodd y ffilm ei gynhyrchu fel rhan o brosiect blwyddyn olaf a enillodd y wobr am ffilm ffeithiol myfyrwyr yng Ngwobrau RTS a gynhaliwyd yn sinema Cineworld yng Nghaerdydd.

Graddiodd Sol Gardiner-Wade mewn Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau Ffilm a Theledu ac mae bellach yn astudio gradd Meistr yn yr adran.

Mae Monika Bednarczyk wedi graddio mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu ac yn bwriadu mynd ymlaen i astudio gradd Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd flwyddyn nesaf.

Mae’r ffilm, sydd wedi ei chynhyrchu gan Sol a’i chyfarwyddo gan Monika, yn cyplysu deunaw mlynedd o ffilmiau teulu teithiol â chyfweliadau gydag aelodau o’r teulu am eu hatgofion.