Mae’r actor sy’n chwarae rôl mab Smithy (James Corden) a Nessa (Ruth Jones) yn y gyfres gomedi Gavin & Stacey yn un o’r babis gwreiddiol o’r sioe.

Cafodd Smithy a Nessa blentyn o’r enw Neil cyn i’r gyfres, sydd wedi’i ffilmio yn y Barri,  ddod i ben.

Bydd Neil yn 12 oed yn y rhaglen Nadolig eleni.

Dywedodd James Corden ar raglen radio BBC The Zoe Ball Breakfast Show: “Pan oedden ni’n ffilmio’r gyfres ddiwethaf, cafodd Nessa a Smithy fabi.

“Felly, ar y set, roedd gennym ni ddau fabi yn perfformio Neil. Os oedd un ohonyn nhw’n crio, byddem yn cyfnewid un am y llall.

“Yr actor sydd yn chwarae Neil oedd un o’r babanod. Mae Oscar Hartland yn hollol wych. Roedd o’n un o’r babis oedd yn chwarae’r babi yng nghyfres tri.”

Bydd y rhaglen arbennig The Gavin & Stacey Christmas Special yn cael ei darlledu am 8.30pm ar BBC 1 ar Ddydd Nadolig.