Mae’r actores Gymreig, Joanna Page, wedi cytuno i ddarllen stori blant ar CBeebies ar yr un diwrnod ag y mae Gavin & Stacey yn dychwelyd am raglen Nadolig.

Mae’r actores yn un o’r enwau mawr fydd yn ymddangos ar rifyn Nadoligaidd o’r rhaglen Bedtime Stories.

Bydd Joanna Page yn ymddangos ar Bedtime Stories ar fore dydd Nadolig tra bydd Gavin & Stacey yn cael ei ddarlledu gyda’r nos.

Bydd yr actores yn darllen y stori “Snow gan Sam Usher’, sydd am fachgen sydd eisiau mynd i chwarae yn yr eira ond yn gorfod disgwyl am ei daid.

Disgrifiodd Joanna Page, sy’n fam i dri’r profiad fel “y diwrnod gorau erioed”.

“Rwy’n mynd i ennill lot o bwyntiau gan y plant a bydd hyn yn gwneud hwn y Nadolig gorau eto,” meddai.