Fe fydd cyfres gomedi boblogaidd, a wnaeth Ynys y Barri yn enwog, yn dychwelyd i’r sgrin fach gyda phennod arbennig adeg y Nadolig.

Cafodd Gavin & Stacey ei darlledu yn wreiddiol ar y BBC rhwng 2007 a 2010, gydag aelodau’r cast yn
cynnwys yr actorion Mathew Horne, James Corden a Ruth Jones.

Ac mae’r prif sgrifennwyr – James Corden a Ruth Jones – bellach wedi cadarnhau y bydd y gyfres yn
dychwelyd wedi mwy na degawd o egwyl.

“Yn ystod y deng mlynedd diwethaf rydyn ni wedi siarad tipyn am Gavin a Stacey – lle maen nhw
heddiw, a beth a sut fath i’w bywydau nhw,” meddai’r ddau mewn datganiad.

“Felly, yn gyfrinachol, rydyn ni wedi cymryd y cam a sgrifennu’r bennod un awr arbennig hon.

“Rydyn ni wedi mwynhau ymweld â’r Barri ac Essex eto, ac mae dod â’r cymeriadau yn ôl at ei gilydd
wedi bod yn brofiad gwych.”