Llun Faith Howells, cymeriad Eve Myles yn y gyfres Un Bore Mercher ar S4C, sydd ar glawr blaen cylchgrawn Radio Times yr wythnos hon.

Mae’r gyfres ddiweddaraf yn dechrau nos fory (nos Sul, Mai 12), wrth i wylwyr gael y cyfle i ail-gydio yn hanes y prif gymeriad sy’n adnabyddus am ei chôt felen.

Mae’r geiriau ‘Un Bore Mercher’ yn ymddangos o dan y llun.

Pan ddaeth y gyfres ddiwethaf i ben, fe wnaeth Evan, gŵr Faith, ymddangos unwaith eto yn dilyn ei ddiflaniad, a hynny wrth i’w wraig glosio at Steve Baldini (Mark Lewis Jones).

Gyda’r triongl serch y daeth y gyfres ddiwethaf i ben.

“Mae’r teulu yn aros yn Abercorran ond mae Evan wedi gadael pethau’n ffradach ac yn sydyn, mae’r byd yn lle peryglus iawn oherwydd y pethau mae Evan wedi gwneud,” meddai Eve Myles ar drothwy’r gyfres newydd.

“Ond mae rhaid i Faith ac Evan ystyried y plant a beth sydd orau iddyn nhw, felly ry’n ni’n gwneud ein gorau glas i normaleiddio pethau er eu mwyn nhw.”

Mwy na ffrindiau?

Yn y gyfres gyntaf, datblygodd Faith gyfeillgarwch gyda Steve Baldini – dyn gyda hanes amheus a chysylltiadau gyda byd troseddol gorllewin Cymru.

“Mae’r menywod i gyd yn edrych ymlaen at weld Steve eto – a’i vest!” meddai.

“Ond ie, mae Steve yn dychwelyd ac mae’n chwarae rhan amlwg.

“Yn y gyfres gyntaf mae Faith yn teimlo’n isel iawn ar ôl i Evan ddiflannu. Mae hi’n mynd trwy crisis enfawr ac yn ofnus iawn.

“Mae hi’n cwrdd â Steve ac mae e’n cynnig diogelwch iddi, gobaith a nerth ac mae’r pethau yna’n golygu lot i Faith.”

Hefyd yn dychwelyd i’r gyfres ma Lisa (Catherine Ayers), Arthur, y cyn-filwr (Alex Harries) sy’n gwarchod plant Faith a Cerys Jones (Hannah Daniel) cyfreithwraig a chydweithiwr Faith.

Beth am y gôt felen?

“Mae’r gôt yn un o brif gymeriadau’r gyfres!” meddai Eve Myles wedyn.

“Mae’n rhyfedd fod rhywbeth mor hynod wedi tyfu allan o rywbeth mor gyffredin, fel y mac.

“Rwy’n meddwl mai rhywbeth i wneud gydag uniaethu ydyw e. Mae pobol yn gwybod pan mae Faith yn gwisgo’r gôt ei bod hi ‘on a mission’!”