Mae erlynwyr wedi gollwng yr holl gyhuddiadau yn erbyn yr actor Jussie Smollett o’r Unol Daleithiau.

Roedd seren cyfres Empire yn wynebu 16 cyhuddiad yn ei erbyn yn dilyn honiadau ei fod wedi talu dau frawd i lwyfannu ymosodiad hiliol a homoffobig yn ei erbyn.

Mae ei gyfreithiwr Patricia Brown Holmes nawr yn ceisio ailgyfeirio’r archwilwyr at rôl y brodyr Abimbola “Abel” Osundaito a Olabinjo “Ola” Osundairo, sydd o dras Nigeraidd.

Cred yr awdurdodau yw mai Jussie Smollett wnaeth gynllwynio’r ymosodiad ble dywedodd fod y ddau frawd wedi ymosod arno yn ninas Chicago ar Ionawr 29.

Honiad Jussie Smollett yw bod y ddau wedi gweiddi “Gwlad Maga yw fan hyn,” sef cyfeiriad at slogan arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ‘Make America great again’.

Dywed yr actor, sydd yn hoyw ac yn groenddu, bod y brodyr wedi ei wenwyno â chemegyn a rhoi rhaff am ei wddw, a bod un ohonyn nhw’n groenwyn.

Yn ôl yr awdurdodau, roedd Jussie Smollett wedi gwneud hyn oherwydd ei fod yn anhapus gyda’i gyflog ar sioe Fox, Empire, a’i fod eisiau hyrwyddo ei yrfa.