Haul, syrffio, rhyw, cyffuriau a phryder am arian fydd rhai o brif themâu drama newydd am bobl ifanc, sy’n dechrau ar S4C nos Iau.

Fe fydd drama Zanzibar yn darlunio bywyd criw o bobl ifanc yn ystod un Haf yn Aberystwyth. Mae’r gyfres yn cael ei disgrifio fel un “ cignoeth, doniol a thywyll”.

“Mae’r rhan fwyaf o’r cast yn ffres o golegau drama ac yn newydd i’r sgrin fach” meddai S4C  – ond amryw ohonynt wedi treulio sawl haf yng nghwmni ei gilydd ar gyrsiau preswyl Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Ymysg aelodau’r cast mae Owain Gwynn, Ellen Ceri Lloyd, Dafydd Llŷr Thomas, Meilir Rhys Williams, Catrin-Mai Huw, Elin Phillips, Sion Ifan, Hanna Jarman a Gwydion Rhys.

Fe fydd pob pennod yn canolbwyntio ar stori un o’r bobl ifanc .

‘Dianc’

Yn ôl Beth Angell, Cynhyrchydd ac un o awduron Zanzibar mae pob un o’r cymeriadau’n ceisio dianc rhag rhywbeth.

“Mae Zanzibar yn hafan lle maen nhw’n medru anghofio eu problemau – dianc oddi wrth eu rhieni, y gorffennol neu gyfrifoldebau – a chreu teulu bach eu hunain,” meddai.

Eglurodd y bydd gwylwyr yn cael straeon unigolion o’u safbwynt nhw.

Fe fydd Zanzibar yn cael ei darlledu nos Iau, 6 Hydref am 10yh.