Mae Welsh Whisperer, y canwr o Gwmfelin Mynach yn Sir Gaerfyrddin, yn dweud y bydd cyfle i weld “Calvin Harris ffermwyr Cymru” wrth ei waith heno (nos Sadwrn, Mawrth 16).

Mae’r canwr a diddanwr poblogaidd ymhlith y criw diweddaraf o enwogion sy’n cymryd rhan yn y gyfres Fferm Ffactor Selebs ar S4C (7.30yh), yn y gobaith o ennill £3,000 at achos da.

“Dwi wedi treulio lot o amser gyda amaethwyr y wlad dros y bum mlynedd diwethaf, boed yn canu iddyn nhw neu’n defnyddio toiledau eu tai ac yn canu yn eu siediau, felly mae rhaid bod rhywbeth wedi dylanwadu arnai!” meddai ar drothwy’r bennod.

“Fel dywedodd rhywun wrthai un tro, fi yw Calvin Harris ffermwyr Cymru, ac roedd hi’n iawn.

“Bydda i’n saff sut bynnag mae’n troi allan, ond un peth sy’n sicr, mae’r ‘rigger boots’ wedi gweld gwaith o’r diwedd!”

‘Pwy all ein curo ni?’

Ar ei dîm mae’r actores Lois Meleri-Jones (Pobol y Cwm) a’r dylunydd ffasiwn, Huw ‘Ffash’ Rees.

Byddan nhw’n herio’r diddanwr Aeron Pughe, y gantores a chyflwynwraig Elin Fflur a’r digrifwr Dilwyn Morgan, ac mae Welsh Whisperer yn dweud ei fod yn dawel hyderus.

“Huw Ffash yw’r dyn gyda phrofiad bywyd, Lois yw’r ferch fferm mewn sawl un o fy nghaneuon, a fi? Wel fi yw ‘poster boy’ cefn gwlad Cymru! Pwy all ein curo ni?”

Bydd y tasgau’n cynnwys hel moch, blasu cynnyrch a gwaith peirianyddol.

“Roedd sawl cyfle i roi fy mhrofiadau ar waith fel gyrru digger ond mae rhaid cofio bod tynu lluniau yn y cab a chwblhau tasgau penodol ychydig yn wahanol!” meddai.

“Dwi’n un dda am siarad (sens neu beidio), felly dwi’n teimlo’n hyderus fy mod i o leiaf wedi gallu rhoi cyfarwyddiadau i weddill y tîm.

“Rhai defnyddiol? Gawn ni weld!”

Cadw trefn

Yn cadw llygad barcud ar y cyfan yng Nholeg Llysfasi ger Rhuthun mae’r cyflwynydd a’r ffermwr o Geredigion, Ifan Jones Evans.

Y rhai sydd â’r dasg anodd o ddewis yr enillwyr yw Caryl Gruffydd Roberts, pennaeth marchnata Undeb Amaethwyr Cymru; Richard Tudor, y ffermwr mynydd o Aberystwyth; a Wyn Morgan, sy’n ddarlithydd amaeth yn Sir Amwythig.

Bydd yr enillwyr yn ymuno ag Anni Llŷn, Owain Tudur Jones a Llion Williams yn y rownd derfynol yr wythnos nesaf.