Mae Llion Williams, un o’r enwogion sy’n cymryd rhan mewn cyfres deledu realaeth ar S4C, yn dweud nad yw’n cyfri ei hun ymhlith ‘selebs’ Cymru ond ei fod wedi mwynhau “yn arw”.

Mae’r actor, a gafodd ei fagu yn Nyffryn Conwy a Bangor ond sydd bellach yn byw yn Llanrug ger Caernarfon, yn un o ddeuddeg o bobl adnabyddus sydd wedi’u dewis ar gyfer y gyfres ddiweddaraf o’r rhaglen ffermio, Fferm Ffactor Selebs.

Ond i’r actor a ddaeth i amlygrwydd fel George yn C’mon Midffîld, “job o waith” ydi actio, swydd nad yw’n deilwng o’i ddyrchafu i fyd yr enwogion yng Nghymru.

Mae’n cymryd ei le ar fferm Coleg Cambria yn Llysfasi ger Rhuthun ar dîm y capten Anni Llŷn, y bardd a chyflwynydd, ac Owain Tudur Jones, y cyn-beldroediwr rhyngwladol.

“Dw i ddim yn ystyried fy hun yn selebriti o unrhyw fath,” meddai.

“Fues i’n hir cyn derbyn y gwahoddiad oherwydd, i fi, mae ’na reswm pam sgynnon ni ddim selebs yn Gymraeg, oherwydd sgynnon ni mo’u hangen nhw.

“Job o waith ydi actio, fel gweinidog neu blymar neu drydanwr. Ond gobeithio ein bod ninnau hefyd yn cynnig gwasanaeth i bobol yn yr un modd.”

Tîm o dri

Mae’n dweud mai ei dîm e sydd dan yr anfantais fwyaf am mai nhw yw’r tîm lleiaf profiadol ym myd ffermio.

“Sgen i ddim cefndir mewn amaethyddiaeth o gwbl, ond wnes i fwynhau’n arw,” meddai’r actor, gan ychwanegu ei fod yn tynnu ymlaen yn well ag anifeiliaid na phobol ar y cyfan.

“Roedden ni yn ei herbyn hi braidd!”

Ond mae’r profiad hefyd yn gyfle i’r ffug-bêldroediwr gydweithio â’r pêl-droediwr go iawn, a gynrychiolodd dîm Cymru saith gwaith yn ystod ei yrfa.

“Fo’n bêl-droediwr a finna’n cogio bod yn bêl-droediwr flynyddoedd yn ôl,” yw disgrifiad Llion Williams o’r ddeuawd.

“Ond bod yn bêl-droediwr oedd y freuddwyd i fi erioed.”

Ac yntau’n gyndyn o gymryd rhan yn y gyfres yn y lle cyntaf, mae’n dweud y byddai’n hapus i wneud eto – ond ar un amod bach.

“Baswn i’n mwynhau ei wneud o eto – ond tasa’r gair seleb ddim yn rhan ohono fo!”

Y timau eraill

Bydd ei dîm yn herio Wil Hendreseifion, Lisa Angharad a Dewi Pws yn y rhaglen gyntaf nos Sadwrn (Mawrth 9).

Maes o law, fe fydd Lois Meleri-Jones, Welsh Whisperer a Huw Ffash yn mynd benben ag Aeron Pughe, Elin Fflur a Dilwyn Morgan.