The Favourite a Roma yw’r ddwy ffilm sy’n arwain y ffordd yng ngwobrau’r Oscars eleni wrth i’r enwebiadau gael eu cyhoeddi yn Los Angeles.

Mae ganddyn nhw ddeg o enwebiadau’r un sy’n eu rhoi o flaen cystadleuwyr eraill sy’n cynnwys A Star Is Born a Vice – sydd ag wyth yr un, a Black Panther sydd a saith.

Black Panther yw’r ffilm ‘superhero’ cyntaf erioed i gael ei henwebu i’r ffilm orau.

Mae’r Cymro Christian Bale, wedi cael ei enwebu fel yr actor gorau am ei rôl yn Vice. Mae’n chwarae rhan Dick Cheney, is-lywydd cyn-arlywydd America, George Bush yn y ffilm.

Mae Olivia Colman a Rachel Weisz hefyd wedi cael eu henwebu, ar ol creu argraff yn eu rolau yn ffilm The Favourite, sy’n dilyn stori y Frenhines Anne yn y 18fed ganrif.

Bydd cystadleuaeth hefyd yn dod gan Glenn Close am ei rôl yn The Wife ynghyd a Yalitza Aparicio sydd wedi cael ei henwebu am ei rôl yn ffilm Mecsicanaidd Netflix – Roma.

Mi fydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ar Chwefror 25.