Mi fydd sioe blant ar S4C, Deian a Loli, yn cystadlu yn erbyn rhai o raglenni teledu plant y byd am wobr ryngwladol.

Mae’r rhaglen wedi cyrraedd rhestr fer categori Rhaglen Blant Cyn-Ysgol Orau yng ngwobrau’r Broadcast Awards.

Mae’n golygu bod Deian a Loli yn mynd i fod yn cystadlu am y brif wobr yn erbyn tri o’r enwau mwyaf ym maes teledu i blant, sef Disney Junior, CBeebies a Nick Jr.

Mae’r sioe yn dilyn anturiaethau efeilliaid sy’n cael eu chwarae gan  Gwern Jones, 11 oed, o Lanrug ger Caernarfon, a Lowri Jarman, 10 oed, o Lanuwchllyn ger y Bala.

Cafodd y rhaglen, sydd wedi ei chynhyrchu gan Cwmni Da, Caernarfon, wobr BAFTA Cymru’r llynedd.

“Ymateb arbennig o bositif”

Bu’n rhaid i Cwmni Da drefnu dangosiadau ychwanegol pan gafodd rhai cyntaf y gyfres newydd ei lansio dros y Nadolig.

Cafodd  y dangosiadau arbennig eu cynnal ym Methesda, Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd a bu’n rhaid trefnu pedwerydd dangosiad yng Nghanolfan Pontio ym Mangor ar ôl i’r tri cyntaf werthu allan mewn deg munud.

Mae’r cynhyrchydd Angharad Elen yn dweud bod y gyfres wedi cael “ymateb arbennig o bositif.”

Daeth ei hysbrydoliaeth i greu’r sioe gan ei phlant ei hun –  Cain a Syfi.

“Doeddwn i ddim wedi gwneud dim efo sioeau plant cyn i mi gael plant fy hun, ac roeddwn yn teimlo ychydig yn euog yn eu gadael bob dydd i fynd i’r gwaith,” meddai Angharad Elen.

“Rwy’n credu bod fy nghenhedlaeth i’n dueddol o lapio ein plant mewn gwlân cotwm, gan ddweud wrthyn nhw i beidio â dringo coed ac ati, felly mae’r rhaglen wedi’i seilio i ryw raddau ar fy mhlentyndod fy hun.”

“Dydw i erioed wedi gweld unrhyw beth fel hyn o’r blaen,” meddai Angharad Elen, “mae Deian a Loli fel sêr pop i’n cynulleidfa.”

Mae Deian a Loli yn cael ei darlledu ar blatfform Cyw ar S4C am 7.45yb bob dydd Mercher.