Bron i ddeng mlynedd ar ôl ymweld ag Affganistan am y tro cyntaf, mae’r newyddiadurwr Eifion Glyn yn dychwelyd i’r wlad ar gyfer rhaglen Y Byd ar Bedwar.

Dyma fydd y trydydd tro i’r newyddiadurwr 67 oed ymweld ag Affganistan sydd wedi bod ynghanol rhyfel ers 2001.

Roedd lluoedd NATO wedi gadael y wlad yn 2014 ond er hynny mae “Affganistan yn beryclach y dyddiau yma nag ar unrhyw adeg” ers hynny, meddai Eifion Glyn, a fu’n ymweld a Kabul, prif ddinas Affganistan, ddiwedd Medi.

Cefndir

Fe ymwelodd Eifion Glyn ag Affganistan am y tro cyntaf yn 2009 pan aeth i ffilmio dau frawd o Gaernarfon oedd yn aelodau o’r Gwarchodlu Cymreig yn Helmand.

“Fues i erioed mewn lle peryclach,” meddai wrth gofio’n ol ar ei amser yno ar flaen y gad.

“Efo’r Taliban yn ddi-feth yn ymosod ddwywaith y dydd. Dychwelais adref yn un darn i roi’r rhaglen at ei gilydd.”

Yna dychwelodd Eifion Glyn i Helmand yn 2012, ac er bod pethau wedi distewi rywfaint “roedd hi’n dal yn beryg bywyd yno,” meddai.

Roedd y newyddiadurwr wedi cadw mewn cysylltiad hefyd gyda bachgen ifanc o Kabul oedd wedi gweithio i’r fyddin Brydeinig fel cyfieithydd.

“Bu rhaid i Nazir ddianc o’i famwlad am fod y Taliban am ei waed. Mae’n 29 oed rŵan, a dydi o ddim wedi gweld dim ond rhyfel yn ei famwlad.”

Mae o wedi cael lloches dros dro ym Mhrydain ac mae’n ymgyrchu i gael dinasyddiaeth barhaol yma.

“Byddai Nazir yn fy mwydo â gwybodaeth am ei famwlad, a’r haf yma, daeth am benwythnos i ymwled â mi a’m teulu. Eglurai Nazir wrthyf yn fanwl gwlad mor gymhleth yw Affganistan. Mae’n llawn llwythau gwahanol sydd ar hyd y blynyddoedd wedi bod yng ngyddfau ei gilydd.

“Pan soniais wrtho ‘mod i wedi cael cynnig gwneud rhaglen arall am ei wlad” yn ol Eifion Glyn, “dos” oedd ymateb Nazir, “mae angen i bobol wybod beth ydi’r sefyllfa yno.”

“Chwilfrydedd”

Roedd Eifion Glyn yn awyddus i weld sut oedd pethau yno erbyn hyn, a’r “chwilfrydedd” newyddiadurol ynddo oedd wedi ei wthio yn ôl, meddai.

“I unrhyw un, mae’ch diddordeb yn llawer mwy byw mewn lle os ydych wedi ymweld ag o eich hunan. Mae’r un peth yn wir am newyddiadurwr.”

Ychwanegodd: “Roeddwn i hefyd eisiau gweld beth oedd hynt y bobl y dois ar eu traws yn 2009 a 2012 a cheisio deall sut oedden nhw a theuluoedd y milwyr fu’n gwasanaethu yn edrych yn ôl ar eu cyfraniad heddiw. Oedd o’n werth yr aberth?”

“Y chwilfrydedd yna, am wn i, a wnaeth i mi dderbyn gwahoddiad ITV a dychwelyd i Affganistan.”

Bydd Y Byd ar Bedwar yn cael ei darlledu am 9.30yh ar nos Fawrth 18 Rhagfyr.