Mae rhaglen ar gyfer pobol ifanc ar S4C wedi llwyddo i ennill gwobr BAFTA Plant 2018.

Fe dderbyniodd y gyfres gêm, Prosiect Z, y wobr yn ystod seremoni BAFTA yn Llundain neithiwr (Tachwedd 25), sy’n gwobrwyo rhaglenni blaengar ym maes cyfryngau plant yng ngwledydd Prydain.

Cafodd y gyfres, sy’n gynhyrchiad gan Boom Cymru, ei henwebu yn y categori Adloniant.

Mae’r rhaglen ei hun yn dilyn  grwpiau o blant ysgol sy’n ceisio cwblhau tasgau er mwy dianc o’u hysgolion sy’n llawn sombis o’r enw ‘Zeds’.

“Wrth ein bodd”

“Rydym ni wrth ein bodd fod Prosiect Z wedi ennill gwobr BAFTA plant,” meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C.

“Mae’r tîm Cynhyrchu wedi creu fformat hollol wreiddiol a beiddgar sy’n torri tir newydd ac mae’r wobr yma’n cydnabod eu creadigrwydd a’u gwaith caled. Llongyfarchiadau i’r criw.”

Yn gynharach eleni, cafodd Prosiect Z ei henwebu ar gyfer gwobr Prix Jeunesse International, gan gael ei chynnwys ar y rhestr fer o blith dros 400 o gynigion gan ddarlledwyr y byd.