Dychmygwch eich bod wedi cael rhwydd hynt i aros yn America am 30 mlynedd, yn byw bywyd gonest ac yn gweithio yn ennill cyflog da a magu teulu… ond yna, un diwrnod, daw cnoc ar y drws ac mae’r awdurdodau yn eich anfon adref i Fecsico, am nad oes gennych chi’r dogfennau cywir.

Dyna ddigwyddodd i un dyn o Fecsico, wythnos yn unig wedi i Donald Trump gael ei ethol yn Arlywydd America yn 2016.

Roedd Gaston Cavares yn 17 oed pan adawodd Mecsico am San Diego, a bydd ei hanes trist yn cael ei adrodd ar gyfres newydd Y Wal sy’n dechrau ar S4C nos Sul (Tachwedd 18).

Cynhyrchydd y gyfres yw Caryl Ebenezer, ac roedd ffilmio hanesion personol pobol ar y ffin rhwng Mecsico ac America yn brofiad “dirdynnol”.

“Roeddwn i eisiau i bobol ddeall persbectif y bobol yno, a dim persbectif y gwleidyddion,” meddai.

“Aeth Gaston Cazares i ddilyn y freuddwyd Americanaidd, yn ddyn ifanc iawn… gweithio yn galed, talu trethi, cwrdd â’i wraig.

“Ond, wrth gwrs, maen nhw yn undocumented. Achos pan aethon nhw i America, doedd dim gymaint o reolau wrth y ffin.

“Ac maen nhw yn siarad am hyn [ar y rhaglen], bod pobol jesd yn mynd i weithio ac i gael bywyd gwell [yn America].

“Fel yr eglurodd Gaston Cazares, roedd e’ eisiau mynd draw yno er mwyn cael pâr o American trainers.

“Ond flynyddoedd wedyn, wrth gwrs, pan ddoth Trump mewn… mi ddaeth pobol ar ôl Gaston Cazares. Ac o fewn wythnosau roedd e’n mynd nôl tros y ffin i Fecsico.

“A doedd e’ heb fyw ym Mecsico ers tri deg o flynydde. Felly roedd Mecsico, erbyn hyn, bron yn ddieithr iddo fe.

“Ond mae ei wraig a’i blant yn dal i fyw yn San Diego, ac mae e’ ym Mecsico a’r plant yn mynd draw i’w weld e’ pob penwythnos.

“Mae e’n dorcalonnus a’r boi bach heb wneud dim byd, dim record droseddol na dim. Jest bod Trump wedi dod mewn a bod nhw yn tynhau a dweud: ‘Tydyn ni ddim eisiau’r bobol heb y papurau angenrheidiol’…

“Roeddech chi’n gweld y boen mae fe’n achosi i bobol normal. Y gwleidyddion yn dweud rhywbeth, ac mae’r peth yn cael ei weithredu heb edrych ar bob achos. Paentio pawb â’r un brwsh bron.”

Yr ochr arall

Yn ogystal â holi’r rhai sydd wedi dioddef dan Trump, mi fuodd Caryl Ebenezer yn ffilmio gydag un o gefnogwyr brwd Donald Trump.

“Gwrddo ni ag un o bobol ar ochr draw y ffens, y vigilante yma, Bob Maupin, ac roedd ei ardd gefn ef ar y ffin [rhwng America a Mecsico],” eglura’r cynhyrchydd teledu.

“Roedd ei ranch ef ar y ffin, ac fe gawson ni brofiad a hanner.

“Bob dydd, roedd e’n patrolio ei ardd gefn, yn edrych mas am illegal immigrants yn croesi fewn i’w diriogaeth ef.

“Digon teg, achos efallai dydyn nhw ddim fod gwneud hynny. Ac roedd e’n mynd mas gyda gwn mawr bob dydd, a fuon ni mas ar batrôl gydag ef. Roedd e’n eithaf brawychus.

“Ac fe wnaeth e’ gasglu cwpwl o’r ffrindiau sy’n byw wrth y ffens, ac mae darn o ffens yn bodoli yno’n barod. Ond roedd e’n teimlo nad oedd e’n ddigon i’w amddiffyn ef.

“Felly beth wnaeth ef a’i ffrindiau oedd codi ffens eu hunain, wrth ochr y wal sydd yno yn barod, sy’n ddwy filltir o hyd ac yn ddeg troedfedd o uchder.”

Y Wal: Mecsico a Trump ar S4C nos Sul, 8yh