Mae cyfres boblogaidd S4C, Un Bore Mercher wedi’i henwebu ar gyfer gwobr y Ddrama Orau Mewn Iaith Heblaw Saesneg yng Ngwobrau Rhyngwladol Drama C21 eleni.

Cafodd y gyfres ei ffilmio yn y gorllewin, a’r fersiwn Saesneg Keeping Faith wedi’i darlledu drwy wledydd Prydain gan y BBC – y tro cyntaf i gyfres ar y cyd rhwng S4C a’r BBC gael ei darlledu ar BBC1. Fe dorrodd record iPlayer o ran ei chynulleidfa.

Mae’r gyfres yn adrodd hanes y gyfreithwraig, gwraig a mam, Faith Howells (Eve Myles), sy’n brwydro i ddeall diflaniad sydyn ac annisgwyl ei gŵr.

Mae’r gyfres eisoes wedi ennill tair gwobr BAFTA Cymru – yr actores orau (Eve Myles), y gerddoriaeth wreiddiol orau (Amy Wadge) a’r awdur gorau (Matthew Hall), ac mae’r ail gyfres ar y gweill.

‘Newyddion da iawn’

“Mae hyn yn newyddion da iawn i bawb oedd yn rhan o greu’r ddrama arbennig hon,” meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees. “Rydym ni mor falch o’r hyn mae’r gyfres Un Bore Mercher (Keeping Faith) wedi ei gyflawni.

“Mae’n dangos y gall pethau gwych ddigwydd pan fydd darlledwyr yn ymuno ac mae’n dyst i’r talentau actio a chynhyrchu rhagorol sydd gan Gymru i’w gynnig.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod y noson wobrwyo yn Llundain ddydd Mercher, Tachwedd 28 yn ystod Cyfarfod Drama Rhyngwladol C21.

‘Cydnabyddiaeth enfawr’

“Mae Gwobrau Rhyngwladol C2 yn anrhydeddus iawn,” meddai Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Lloyd. “Maen nhw gan ac ar gyfer y diwydiant darlledu yn benodol.

“Mae cael ein henwebu mewn categori mor uchelgeisiol gan feirniaid rhyngwladol pan fo’r gystadleuaeth ar ei mwyaf brwd yn gydnabyddiaeth enfawr.

“Mae Un Bore Mercher (Keeping Faith) yn gyfres sy’n mynd â Chymru, ein straeon a’n talent i gynulleidfa ryngwladol sydd i weld ag awch di-baid am gyfresi cyfoes Cymreig.”

Mae Gwobrau Rhyngwladol Drama C21 yn cynnwys 11 o gategorïau ac yn cael eu beirniadu gan dros 100 o’r prif gomisiynwyr drama ym myd darlledu.