Mae’r BBC wedi cyhoeddi mai’r digrifwr Paddy McGuiness a’r cyn-gricedwr Frediey Flintoff fydd yn cyflwyno sioe geir Top Gear o’r flwyddyn nesa’ ymlaen.

Mi fydd y ddau yn llenwi esgidiau Matt Le Blanc, sydd yn gadael ar ôl ei bedwaredd gyfres, ac yn ymuno â’r newyddiadurwr modur a’r rasiwr ceir, Chris Harris.

Mae Paddy McGuiness, cyflwynydd Take Me Out, ei bod yn “fraint” cael y cyfle i gyflwyno sioe y mae wedi ei gwylio a’i charu ers ei fod yn fachgen ifanc.

Ychwanegodd Freddie Flintoff, cyn-gapten tîm criced Lloegr a Cymru ei fod wastad wedi body yn angerddol am geir.