Mae’r gwasanaeth ffrydio, Netflix, wedi derbyn mwy na saith miliwn o gwsmeriaid newydd dros gyfnod yr haf.

Yn dilyn cwymp yn nifer y tanysgrifwyr yn y gwanwyn, mae Netflix wedi gweld cynnydd aruthrol yn ystod y tri mis diwethaf, gan chwalu’r targed o bum miliwn yr oedd rheolwyr y gwasanaeth wedi gobeithio ei ennill.

Mae’r cynnydd hwn wedi cael croeso mawr ar y farchnad stoc, wrth i werth cyfran y cwmni gynyddu 12%.

Mae mwy na 137 miliwn o bobol wedi tanysgrifio i Netflix ledled y byd.