Mae ennill gwobr BAFTA Cymru yn “golygu popeth” i actorion cyfres S4C, Bang, yn ôl Catrin Stewart a Jacob Ifan, sy’n chwarae’r prif gymeriadau.

Bu’r ddau yn siarad â golwg360 ar ôl iddyn nhw gasglu’r wobr am y Ddrama Deledu Orau ar ddiwedd y seremoni fawreddog yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd nos Sul (Hydref 14).

Mae Catrin Stewart yn chwarae rhan y blismones Gina, a Jacob Ifan yn chwarae rhan ei brawd Sam yn y gyfres sydd wedi’i hysgrifennu gan Roger Williams ac sydd wedi’i lleoli yn ei dref enedigol, Port Talbot.

Mae’r ddrama’n defnyddio cymysgedd o Gymraeg a Saesneg.

“Dros flwyddyn yn ôl, bron blwyddyn a hanner yn ôl ffilmion ni’r gyfres, ond y’n ni’n dal yn gallu byw’n vicariously trwy nosweithiau fel hyn,” meddai Jacob Ifan.

“Mae pobol yn dal yn siarad amdano fe yn od ond yn rili neis gan fod cymaint o waith wedi mynd mewn iddo fe.”

‘Nodweddion o safon’

Ac mae’n dweud bod “nodweddion o safon” yn y ddrama sy’n cyfrannu at ei hapêl.

“Nid yn unig yr actorion ond mae sgwennu a chymeriadu Roger [Williams] mor wych. Mae’r lleoliadau’n stunning. Oedd e wedi cael ei ffilmio hefyd mewn ffordd oedd yn portreadu Port Talbot mewn ffordd oedd hi ddim wedi cael ei phortreadu o’r blaen.

“I fi, oedd e’n teimlo’n newydd a chyffrous. A gobeithio mai dyna pam fod pobol yn uniaethu, neu jyst yn joio.”

Iaith a chyfresi dwyieithog neu gyfochrog

Yn wahanol i gyfresi fel Y Gwyll/Hinterland, Craith/Hidden ac Un Bore Mercher/Keeping Faith, cyfres ddwyieithog ac nid cyfochrog yw Bang.

Yn ôl Catrin Stewart, mae’r symud rhwng y Gymraeg a Saesneg yn ychwanegu at apêl y gyfres i’r gynulleidfa, ac yn creu “teimlad real”.

“Mae’n rhywbeth newydd, ac mae pobol sy’ ddim yn siarad Cymraeg yn gallu tiwnio mewn iddo fe. Mae’n cynrychioli Cymru ar hyn o bryd o ran y defnydd o iaith.

“Mae’n adlewyrchu’r ffordd mae pobol yn siarad, yn enwedig yn y de. O’n i’n caru’r ffaith fod pobol yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg yn yr un olygfa, ac mae’n gweithio’n naturiol o dda.

“Mae’n drama gyflym a chyffrous ac yn action-packed. Mae’r stori’n gryf a dw i’n credu bod pobol yn hoffi cael stori. Mae’n crime drama sydd â pherthynas rhwng brawd a chwaer ac mae yna themâu mae pobol yn gallu uniaethu efo nhw.”

Ychwanegodd Jacob Ifan fod yna “ddyletswydd” ym myd y ddrama i “adlewyrchu’r byd mae’r cymeriadau’n byw ynddo”.

“Mae Cymru’n wlad ddwyieithog, felly mae’n grêt bod yna ddramâu sy’n bodoli yn gyfangwbl yn y Gymraeg. Ond eto, mae pobol sy’n byw yng Nghymru’n deall y byd, ac mae’n refreshing i weld y byd yna’n cael ei ddangos.”