Mae’n “hyfryd bod yn ôl” yng Nghymru, meddai Ioan Gruffudd wrth golwg360 ar ddiwedd noson gwobrau BAFTA Cymru yng Nghaerdydd.

Daeth yr actor Hollywood adref ar gyfer y seremoni yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, lle cafodd ei enwebu ar gyfer gwobr yr Actor Gorau am ei bortread o’r cymeriad Andrew Earlham yn Liar.

Aeth y wobr honno, yn y pen draw, i Jack Rowan am bortreadu’r cymeriad Sam Woodford yn y gyfres Born to Kill.

‘Cenedl fach… ond cymaint o dalent’

Er ei siom bersonol o fethu â chipio un o brif wobrau’r noson, mae Ioan Gruffudd yn dweud fod Cymru’n genedl fach gyda “shwd gymaint o bobol dalentog”.

“Mae nifer o fy ffrindiau wedi bod yma ac wedi ennill heno, felly dw i wrth fy modd drostyn nhw, ac yn falch iawn o fod yma i ddathlu ein diwylliant a’n diwydiant yng Nghymru, felly mae’n grêt i fod yn ôl.

“Be’ sy’n anghredadwy yw bod ni’n genedl mor fach, ond r’yn ni’n dathlu shwd gymaint o bobol dalentog.

“Mae’n bleser i fod ar y llwyfan gyda shwd gymaint o dalent.”

‘Aduniad’

Dywedodd fod dychwelyd i Gymru ar gyfer y seremoni wedi bod “fel aduniad” iddo, ac yntau bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau.

“Mae cynifer o bobol dw i wedi gweithio gyda nhw neu’n ffrindiau gyda nhw sydd wedi ennill neu wedi’u henwebu heno.

“Dw i’n falch iawn o gael bod yn rhan o’r cyfan ac o fod ar y llwyfan i gychwyn y cyfan, ac mae’n teimlo fel ’mod i wedi bod yn siarad byth ers hynny. Mae’n sicr y bydda i wedi colli fy llais erbyn y bore!

“Nid yn aml dw i’n cael dod adre’ erbyn hyn, oherwydd mae fy mywyd teuluol yn Los Angeles, felly mae gwefr bob tro dw i’n dod adre’, yn enwedig mewn digwyddiad fel hwn, gan ’mod i’n cael cyfle i ddal lan gyda phobol, hyd yn oed am bum munud.”