Mae Cymru’n “gwneud cynyrchiadau gwell a mwy uchelgeisiol nag erioed o’r blaen”, yn ôl y cyfarwyddwr Euros Lyn.

Fe fu’n siarad â golwg360 yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ar ôl cipio gwobr y Cyfarwyddwr Gorau yng ngwobrau BAFTA Cymru nos Sul.

Wrth gael ei wobrwyo am ei waith ar y gyfres Kiri i Channel 4, fe gasglodd chweched gwobr BAFTA Cymru ei yrfa, ar ôl cael ei wobrwyo’r llynedd am ei waith ar y ffilm Y Llyfrgell / The Library Suicides.

Mae Kiri yn ddrama sy’n trafod cipio plentyn, ac mae’n serennu Sarah Lancashire, fu’n gweithio ag Euros Lyn yn y gorffennol ar y gyfres Happy Valley i’r BBC.

‘Gallai pob un o’r enwebion fod wedi ennill’

Daeth Euros Lyn i’r brig mewn categori oedd yn cynnwys Bruce Goodison (Born to Kill), Gareth Bryn (Craith) a Philip John (Bang).

Ac fe ddywedodd ar ôl derbyn ei wobr fod y gystadleuaeth yn gryf dros ben.

“Mae’n fraint anhygoel a dw i wrth fy modd. A bod yn onest, gallai pob un o’r pedwar a gafodd eu henwebu fod wedi ennill heno, oherwydd mae eu gwaith yn wych.”

Kiri

Cyfres sy’n serennu Sarah Lancashire ac sy’n olrhain hanes gweithiwr cymdeithasol yw Kiri.

Mae hi’n gofalu am ferch fach sydd wedi cael ei rhoi i’w mabwysiadu, ond cyn i’r broses gael ei chwblhau, mae yna ymgais i’w chysylltu â’i theulu go iawn.

Ond ar ddiwrnod yr ymweliad sydd wedi cael ei drefnu, mae hi’n mynd ar goll.

Ychwanegodd Euros Lyn, “Mae gweddill y gyfres yn mynd i’r afael â hynny wedyn, a sut mae’r cyfan yn effeithio ar y gwahanol gymeriadau. Mae hefyd yn archwilio themâu hil, diwylliant a bai yn ein cymdeithas.

“Gobeithio bod y gynulleidfa’n ei chael yn ddarn diddorol, emosiynol a heriol.”

Cymru fel gwlad ffilm a theledu

Yn ôl Euros Lyn, mae Cymru’n prysur ddod yn wlad sy’n gallu cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol ym myd ffilm a theledu.

“Roedd Doctor Who ymhlith y sioeau cyntaf, Sherlock, a nawr mae gyda ni gyfresi mawr sy’n frandiau mawr yn fyd-eang sy’n mynd allan ac yn gwneud arian ar draws y byd.

“Mae pobol yn gwybod eu bod nhw wedi cael eu gwneud yng Nghymru, a bod yna ragoriaeth yma am greu y math yma o raglenni.”