Daeth cadarnhad o farwolaeth y digrifwr a diddanwr Barry Chuckle yn 73 oed.

Roedd yn un hanner o ddeuawd poblogaidd y Chuckle Brothers, ynghyd â’i frawd Paul.

Dywedodd eu rheolwr ei fod e wedi marw’n dawel gyda’i deulu o’i gwmpas, ac fe ddiolchodd y teulu am gefnogaeth y cyhoedd.

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd ei frawd Paul: “Nid fy mrawd yn unig dw i wedi ei golli, ond fy mhartner theatrig ers blynyddoedd lawer a fy ffrind gorau.”

Gyrfa

Ar ôl ennill y gyfres Opportunity Knocks yn 1967, fe fu’r Chuckle Brothers o Rotherham yn diddanu cenedlaethau o blant, yn enwedig gyda’u cyfres ChuckleVision rhwng 1987 a 2009.

Roedden nhw wedi bod yn ffilmio cyfres newydd, Chuckle Time, i Channel 5 yn ddiweddar ond fe gafodd Barry Chuckle i daro’n wael tua diwedd y broses ffilmio. Yn rhan o’r gyfres, fe fu’r brodyr yn perfformio sgetsys doniol ac yn cyflwyno fideos doniol ar y we gan y cyhoedd.