Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi gofyn am gyfarfod buan gyda Phrif Weithredwr S4C i drafod eu pryderon ynglŷn â sut mae’r sianel yn trin y Gymraeg.

Yn dilyn ymholiadau diweddar y mudiad, ymddengys mai ond 15-20% o oriau darlledu’r sianel sy’n cael ei is-deitlo yn y Gymraeg, tra bod yna is-deitlau Saesneg i 78% o’r rhaglenni.

Testun pryder arall yw’r cynnydd yn y ddeialog Saesneg sy’n ymddangos mewn cyfresi dramâu.

“Sianel cyfrwng Cymraeg yw S4C, a sianel sy’n bodoli er lles yr iaith,” meddai Dyfodol i’r Iaith.

“Credwn fod y methiant o safbwynt cyflenwi is-deitlau digonol yn y Gymraeg yn amddifadu’r siaradwyr rheiny sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw o’r gwasanaeth darlledu ddylai fod ar gael yn hygyrch iddyn nhw yn eu hiaith eu hunain.

“Pryder arall yw’r defnydd cynyddol o Saesneg mewn cyfresi drama, megis Pobol y Cwm,” meddai’r mudiad wedyn.

“Mae gan raglenni o’r math rôl bwysig i’w chwarae mewn normaleiddio’r Gymraeg, a rhannu’r neges gadarnhaol fod y Gymraeg yn iaith gymunedol, a bod ei dysgu a’i siarad yn sgil sy’n agored i bawb.”